Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn awyddus i gyfarfod â Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, i drafod ariannu teg, ystad y goron a HS2.

Daw’r cais ar drothwy’r etholiad cyffredinol fydd yn cael ei gynnal eleni.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, er bod Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi ymrwymo i sawl polisi Plaid Cymru, mae’n cyfeirio at HS2 fel polisi ‘Lloegr yn unig’ sydd wedi’i ddynodi’n brosiect ‘Cymru a Lloegr’ er mwyn gwrthod cyllid i Gymru.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cyfeirio at ddatganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn llawn fel “polisi sefydledig Llafur Cymru”, meddai, ynghyd â disgrifio pwerau dros ystad y goron fel y “set bwysicaf o bwerau newydd” fyddai’n ceisio’u sicrhau.

Ond dywed Rhun ap Iorwerth fod Vaughan Gething “wedi bod yn dawel ar y materion hyn” ers iddo fe ddod yn Brif Weinidog Cymru, ac mae’n awgrymu bod ei sylw wedi cael ei dynnu gan helynt y rhodd o £200,000 gan gwmni dyn gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol i’w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid.

Yn ei lythyr, mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn crybwyll Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, yn gwrthod yr alwad am ddatganoli cyfiawnder er bod ei phlaid yn cefnogi’r cynnig.

Mae hefyd yn cyfeirio at ostyngiad mewn termau real o £1.3bn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ers 2021, wrth i Vaughan Gething feio “dewisiadau Ceidwadol” am hynny.

Daw hyn er i Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid, egluro ym mis Mawrth na fyddai Llafur, pe baen nhw’n dod i rym, yn torri’r rheolau cyllidol gafodd eu gosod gan y Ceidwadwyr.

“Trwy fabwysiadu rheolau cyllidol llym y Torïaid, mae Llafur yn sicrhau y bydd Cymru’n parhau i gael ei dal yn ôl,” meddai Rhun ap Iorwerth, sy’n annog Keir Starmer i ystyried ei alwadau am “Gymru decach a mwy uchelgeisiol”.

Llythyr

“Ysgrifennaf atoch i ofyn am gyfarfod i drafod y materion pwysig sy’n wynebu Cymru cyn yr Etholiad Cyffredinol sydd i ddod,” meddai Rhun ap Iorwerth yn ei lythyr.

“Addawodd Vaughan Gething, yn ei faniffesto arweinyddiaeth Llafur Cymru, bolisïau a gynigiwyd yn wreiddiol gan Blaid Cymru, gan gynnwys trosglwyddo symiau canlyniadol HS2 i Gymru, datganoli Ystad y Goron a datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn.

“Fodd bynnag, ers iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog, mae o wedi bod yn dawel ar y materion hyn, o bosibl oherwydd bod cwestiynau’n ymwneud â’r rhodd o £200,000 a dderbyniodd gan gwmni troseddwyr amgylcheddol yn denu ei sylw.

“Roeddwn yn siomedig o glywed adroddiadau ar ôl eich cyfarfod cychwynnol gyda’r Prif Weinidog newydd nad oedd unrhyw ymrwymiad i ddarparu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy’r prosiect HS2.

“Naill ai ni chododd Mr Gething y mater hwn neu methodd â’ch perswadio o’i arwyddocâd.

“Yn ystod ymgyrch yr arweinyddiaeth, dywedodd Mr Gething mai cyfrifoldeb am Ystad y Goron yw’r “set bwysicaf o bwerau newydd” y byddai’n eu ceisio i’r Senedd.

“Dyma bolisi hirsefydlog Plaid Cymru – fyddai’n gwneud llawer i fod ein cymunedau’n elwa o ynni cynaliadwy. Fodd bynnag, mae eich Cabinet Cysgodol wedi gwrthod y polisi hwn hyd yn hyn.

“Mae hefyd yn ddigalon, er gwaethaf cytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar bwysigrwydd datganoli plismona a chyfiawnder yn llawn, bod eich Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Gymru, Jo Stevens AS, wedi gwrthod y syniad allan o law.

“Rwy’n gobeithio y byddwch yn cydnabod dadansoddiad manwl Llywodraeth Cymru o’r diffygion yn y system bresennol, a sut y byddai datganoli yn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

“Yn fwy cyffredinol, mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar eu gliniau, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru yn wynebu gostyngiad mewn termau real o £1.3bn ers 2021 oherwydd chwyddiant, ynghyd â diffyg o £1.1bn o gyllid ar ôl yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae Mr Gething wedi bod yn groch yn ei feirniadaeth o Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig ac mae’n honni y byddai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn mynd i’r afael â hyn.

“Os bydd y Ceidwadwyr, yn ôl y disgwyl, yn colli grym yn yr etholiad nesaf, bydd cyfle euraidd i ddiwygio system wleidyddol ddiffygiol y Deyrnas Unedig.

“Fodd bynnag, drwy fabwysiadu rheolau cyllidol llym y Torïaid, mae Llafur yn sicrhau y bydd Cymru’n parhau i gael ei dal yn ôl.

“Byddai fformiwla ariannu yn seiliedig ar anghenion a datganoli pwerau cyllidol i Gymru yn mynd i’r afael a’r anghydbwysedd hwn.

“Fe’ch anogaf i ystyried y galwadau hyn – gan fy mhlaid i, a llawer o’ch cyd-Aelodau eich hun yn y Blaid Lafur yng Nghymru – a gobeithio’n fawr y byddwch yn derbyn fy nghais i drafod sut y gallwn adeiladu Cymru decach, fwy uchelgeisiol.”