Mae un o staff di-dâl yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn dweud bod teimladau o “ansicrwydd a thristwch” ymysg gweithwyr yno.
Mae’r amgueddfa wedi rhybuddio y gallai eu prif safle yng Nghaerdydd gau, ac y bydd o leiaf 90 o staff yn eu saith safle yn colli’u gwaith yn dilyn toriad i’w cyllid.
Ers y gyllideb ddiweddaraf, mae’r sefydliad wedi derbyn toriad o £3m i’w grant, ond gan eu bod yn parhau â diffyg o £1.5m yn flynyddol, bydd cyfanswm y bwlch yn cyrraedd £4.5m erbyn diwedd Mawrth.
Ond mae angen gwario tua £90m ar yr amgueddfeydd cenedlaethol i’w codi nhw i’r safon sy’n ofynnol i ofalu am gasgliadau’r genedl, yn ôl Lesley Griffiths.
“Y prif deimlad ydy ansicrwydd, peidio gwybod swyddi pwy sydd mewn perygl,” meddai aelod di-dâl o staff yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, sydd ddim am gael ei henwi, wrth golwg360.
“A thristwch hefyd, gweld ffrindiau, a staff dw i ddim yn eu hadnabod, yn gorfod gadael y swyddi maen nhw’n eu caru a’u mwynhau – rydyn ni’n teimlo’n flin drostyn nhw.”
‘Angen mwy o gefnogaeth’
Ychwanega fod yr amgueddfa, sy’n rhad ac am ddim i ymweld â hi, “mor bwysig” ac yn ofod diogel i bobol o bob oed a chefndir.
“O’r casgliad celf anhygoel – mae gennym ni bortread o Van Gough ar y funud, sy’n wych – i ‘greu’ Cymru, a’r ystod eang o fywyd gwyllt hyfryd, yn enwedig y dinosoriaid,” meddai.
“Mae angen mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn ariannol a thrwy eu polisïau a’u hareithiau, ac nid ryw sylwadau ffwrdd-â-hi.
“Mae eisiau iddyn nhw fod yn falch o’n treftadaeth, ac mae’r amgueddfa’n lle gwych i wneud hynny.
“Byddai’n wych pe bai Aelodau’r Senedd a gwleidyddion Cymreig eraill yn dod i ymweld â’r amgueddfa i weld pa mor anhygoel ydy’r adeilad a’r casgliadau, mewn gwirionedd.”
‘Dim cyllideb wych’
Hyd yn hyn, mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi dweud mai’r Gwasanaeth Iechyd ydy blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, a dydy e heb gynnig unrhyw gymorth brys i Amgueddfa Cymru.
Yn y Senedd bron i bythefnos yn ôl, dywedodd Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Diwylliant, ei bod hi’n awyddus iawn i gydweithio â phawb ar y mater.
“Does gen i ddim cyllideb wych, fel y gwyddoch, ond dw i ddim yn meddwl ei fod yn fater i fi’n unig,” meddai.
“Dw i’n meddwl ei fod yn fater trawslywodraeth.
“Bydd pob Ysgrifennydd Cabinet yn dweud wrthoch, ond dw i’n gwbl glir bod yr adeilad yn eiconig.
“Nid ni sy’n berchen ar y casgliadau, dydyn ni ond yn edrych ar eu holau wrth basio heibio, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n eu diogelu nhw, felly dw i’n awyddus iawn i weithio gyda phawb.”