Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Brifysgol Aberystwyth i greu cynllun gweithredu, ar ôl iddyn nhw ddirwyn eu cwrs ymarfer dysgu i ben.

Mae’r blaid yn galw am ailgyflwyno’r cwrs cyn gynted â phosib, ar ôl i’r arweinydd Jane Dodds ymweld â’r brifysgol yr wythnos ddiwethaf i gyfarfod â myfyrwyr.

Daeth y cyhoeddiad na fyddai’r cwrs yn parhau i gael ei gynnig yn dilyn cyhoeddi adroddiad Estyn y llynedd oedd yn beirniadu’r sefydliad am fod yn “rhy araf” wrth flaenoriaethu cefnogaeth i fyfyrwyr.

Mae’r blaid hefyd yn galw ar y brifysgol i wella unrhyw ddiffygion tebyg mewn cyrsiau hyfforddi eraill.

‘Conglfaen addysg’

“Ers amser maith, mae Prifysgol Aberystwyth yn cael ei hystyried yn gonglfaen addysg yma yng Nghymru, ac mae ei rôl wrth siapio dyfodol addysg Gymraeg yn allweddol,” meddai Jane Dodds.

“Fodd bynnag, mae’r penderfyniad gan Gyngor y Gweithlu Addysg i dynnu achrediad ar gyfer eu rhaglen ymarfer dysgu bellach yn rhoi hynny yn y fantol.

“Yn gywir iawn, fe wnaeth yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Estyn nodi nifer o ddiffygion yn null gweithredu’r brifysgol wrth gefnogi darpar athrawon, ynghyd â gofyn i’r brifysgol wneud gwelliannau sylweddol.

“Mae penderfyniad Cyngor y Gweithlu Addysg yn awgrymu nad yw’r gwelliannau hynny wedi cael eu gwneud.

“Rydym bellach yn galw ar y brifysgol i weithredu, trwsio diffygion y rhaglen, a dechrau cynllunio er mwyn ailgyflwyno’r cwrs cyn gynted â phosib.”

‘Diffyg cefnogaeth sylweddol’

“Roedd diffyg cefnogaeth sylweddol, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr anabl, sydd wedi bod yn gyson ers 2020,” meddai llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Ifanc.

“Roedd darlithwyr blaenorol bob amser yn hwyr, ac aseiniadau’n cael eu marcio’n hwyr ac mewn modd anghyson.

“Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, mae fy amserlen dros y lle i gyd, ac mae hyn yn cael effaith andwyol ar fy lles.

“Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn golygu y dylid torri’r cwrs; dylai Prifysgol Aberystwyth geisio gwella’r cwrs a helpu i gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o athrawon.”

‘Ergyd drom i ddyfodol addysg Gymraeg’

Yn ôl Mark Williams, ymgeisydd seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, mae’r sefyllfa’n “dorcalonnus”.

“Mae enw da Prifysgol Aberystwyth fel canolfan addysg uchel ei pharch, yn gywir iawn, yn destun balchder i nifer o drigolion yma yng Ngheredigion,” meddai.

“Dyna pam ei bod hi mor dorcalonnus clywed bod y brifysgol wedi methu â chymryd argymhellion adroddiad Estyn 2023 o ddifrif, gan eu harwain nhw i’r sefyllfa o embaras o golli eu hachrediad, sy’n arwain at berygl o ergyd drom i ddyfodol addysg Gymraeg.

“Mae’r diffyg gweledigaeth gan y brifysgol yn hynny o beth yn bryder mawr, a gobeithio er lles y myfyrwyr a’r gymuned ehangach eu bod nhw’n cymryd y camau sydd eu hangen er mwyn ailddechrau’r cwrs cyn gynted â phosib.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Brifysgol Aberystwyth.

“Pryder a syndod” fod cyrsiau ymarfer dysgu Aberystwyth yn dod i ben

Cadi Dafydd

“Mae o’n gwneud i mi bryderu, os rywbeth, ynglŷn â dyfodol y cwrs TAR ar draws Cymru a dyfodol athrawon cyfrwng Cymraeg,” medd un cyn-fyfyriwr