Bydd Toni Schiavone, yr ymgyrchydd iaith, yn mynd gerbron llys unwaith eto fis nesaf wrth i’r ffrae dros rybudd parcio uniaith Saesneg barhau.
Y gwrandawiad ar Fai 13 fydd ei bedwerydd ymddangosiad gerbron y llys yn Aberystwyth mewn perthynas â’r achos.
Daw hyn ar ôl iddo fe wrthod talu dirwy am iddo fe dderbyn rhybudd uniaith Saesneg gan y cwmni One Parking Solution, oedd wedi ennill apêl ym mis Ionawr.
Enillon nhw’r apêl er i’r barnwr Gareth Humphreys rybuddio y dylai’r cwmni ystyried yn ofalus a fyddai’n werth parhau i ddwyn achos, sydd eisoes wedi bod yn broses “hir, anffodus tu hwnt”, ac sydd wedi costio dros £10,000 mewn ffioedd cyfreithiol i’r cwmni.
‘Annigonol’
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y llys i ddyfarnu nad yw rhybuddion uniaith Saesneg yn ddigonol, gan adleisio barn y barnwr Mervyn Jones-Evans mewn gwrandawiad arall yng Nghaernarfon yn ddiweddar.
Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn sicrhau bod hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector preifat yn cael eu parchu.
Derbyniodd Toni Schiavone yr hysbysiad cosb parcio uniaith Saesneg am beidio talu mewn maes parcio yn Llangrannog ym Medi 2020.
Cafodd yr achos gwreiddiol ei daflu allan ym Mai 2022, gan nad oedd cynrychiolydd o’r cwmni parcio yn bresennol, a’r ail yn Awst 2023 oherwydd bod yr achos wedi’i gyflwyno’n hwyr ac o dan reolau anghywir.
Ar Ionawr 26 eleni, enillodd One Parking Solution apêl i barhau i erlyn Toni Schiavone, wedi i’r barnwr ddyfarnu nad oedd sail i daflu’r ddau achos cyntaf o’r llys.
‘Amharchus, afresymol a dialgar’
Cyn y gwrandawiad ym mis Ionawr, dywedodd Toni Schiavone ei fod e wedi derbyn llythyr yn nodi costau gwerth £10,156.70 gan One Parking Solution.
Dywedodd bryd hynny fod y cwmni wedi ymddwyn yn “amharchus, yn afresymol ac yn ddialgar”.
Yn ôl gwaith ymchwil Cymdeithas yr Iaith, byddai cyfieithu’r rhybudd i’r Gymraeg wedi costio £60 yn unig.
‘Hawliau ddim wedi’u sicrhau mewn statud’
Wrth nodi siom Cymdeithas yr Iaith ynghylch ailgyflwyno’r achos, dywed Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith, fod y sefyllfa wedi codi “am nad yw hawliau pobol Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg wedi’u sicrhau mewn statud”.
“Rydym wedi gweld achosion eraill o hyn yn ddiweddar wrth i HSBC a’r cwmni egni OVO israddio neu ddiddymu eu gwasanaethau Cymraeg, heb unrhyw ymateb cadarn gan ein Llywodraeth,” meddai.
“Galwn ar ein haelodau a’n cefnogwyr i fod yno ar 13 Mai i gefnogi Toni, ac i fynnu bod yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mhob agwedd o fywyd yn cael ei barchu, a hynny trwy ddeddfwriaeth.”
Ar Ionawr 30, pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn cynnig Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru yn y Senedd i osod Safonau’r Gymraeg ar sail statudol ar sefydliadau yn y sector preifat, megis banciau, archfarchnadoedd a meysydd parcio preifat.
Yn ystod y ddadl, cyfeiriodd Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, at achos Toni Schiavone fel enghraifft o’r angen i ddeddfu i sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg.
“Unwaith eto, mae’r ymateb yn un trahaus a sarhaus,” meddai.
“Pam mae’n rhaid i siaradwyr Cymraeg barhau i ymgyrchu a mynnu cael gwasanaethau drwy’r Gymraeg?
“Mae’n hen bryd i hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg gael parch drwy statud, a hynny ym mhob agwedd ar fywyd.”