Mae teulu o Sir Amwythig oedd wedi cael gwrthod lle i’w mab mewn ysgol Gymraeg am barhau i ymgyrchu dros fynediad plant dros y ffin at addysg Gymraeg.
Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud tro pedol, a bydd Ynyr yn cael mynd i’r un ysgol â’i chwaer, sy’n chwech oed, fis Medi.
Roedd y Cyngor wedi dweud yr wythnos ddiwethaf eu bod nhw’n dilyn “trefniadau a chod derbyn ysgolion Llywodraeth Cymru”, ar ôl derbyn mwy o geisiadau nag sydd o lefydd yn yr ysgol.
Yn ôl Lowri Jones, dywedodd Cyngor Sir Powys fod un plentyn wedi gwrthod ei le ac felly bod Ynyr wedi cael y cynnig nesaf.
“[Rydyn ni’n] falch iawn, falch iawn dros Ynyr, er bod o ddim wir yn deall, ond roedd ei chwaer o’n deall ac mae hi’n teimlo’n hapus iawn,” meddai Lowri Jones wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl bod ymateb swyddogol Powys, os mai dyna’r ffordd maen nhw eisiau ei eirio fo… Iawn… Ond dw i yn teimlo’u bod nhw wedi gwneud camgymeriad.
“Maen nhw’n dweud bod yna blentyn wedi gwrthod y lle, sydd wedi creu lle i Ynyr, ond dw i ddim yn teimlo’u bod nhw wedi dilyn y meini prawf. Os ydyn nhw’n teimlo’u bod nhw, yna mae’r meini prawf angen ei adolygu.
“Dyna ydy’r cam nesaf. Rydyn ni’n mynd i gario ymlaen gyda’r ymgyrch i wneud yn siŵr fod hyn ddim yn digwydd eto i Ynyrs y dyfodol.
“Mae yna blant eraill yn ardal Croesoswallt lle mae’r rhieni eisiau addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae rhywbeth fel hyn yn mynd i wneud iddyn nhw ofni hynny a mynd am y peth hawsaf, sef addysg Saesneg yn Sir Amwythig.”
‘Ymgyrch ehangach’
Bydd Elin Maher o fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn cwrdd â’r Cyngor yn fuan, ac yn trafod y mater, meddai Lowri Jones.
Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaeth Cyngor Sir Powys lofnodi Partneriaeth y Gororau gyda chynghorau sir Henffordd, Mynwy ac Amwythig i gydweithio’n agosach.
“Hwyrach ein bod ni’n cael Croesoswallt yn rhan o ddalgylch swyddogol Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, efallai ein bod ni’n cael cytundeb swyddogol ar bapur rhwng y ddau gyngor sir, yr angen cymdeithasol penodol – bod hynna’n cael ei ystyried yn well gan Bowys,” meddai wrth drafod y posibiliadau.
“Rydyn ni’n falch iawn, ond rydyn ni dal i deimlo bod rhywbeth i frwydro drosto fo.
“Dydyn ni ddim yn teimlo ar ein pennau ein hunain, rydyn ni’n teimlo bod andros o gefnogaeth.
“Mae hi’n ymgyrch ehangach o ran sicrhau mynediad teg at addysg ddwyieithog tu allan i Gymru.
“Dw i’n meddwl bod o’n amserol iawn efo Eisteddfod yr Urdd yn dod, pe tai Powys yn gallu edrych eto ar y polisïau a’r meini prawf maen nhw’n ddilyn.”
‘Dim sefyllfa fel hyn yn codi eto’
Mae’r Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys, a Bryn Davies, cynghorydd Plaid Cymru dros ardaloedd Banwy, Llanfihangel a Llanwddyn, wedi codi’r mater gydag arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor Sir.
“Dw i’n croesawu hyn yn fawr, mae’n gam positif ymlaen a synnwyr cyffredin wedi llwyddo ar ddiwedd y byd,” meddai Elwyn Vaughan, cynghorydd Glantwymyn, wrth golwg360.
“Beth sy’n bwysig rŵan, a beth rydyn ni’n mynd i weithio amdano, yn enwedig gan fod Cyngor Powys yn cydweithio gyda Sir Amwythig gyda Phartneriaeth y Gororau, rydyn ni eisiau gweld fod dim sefyllfa fel hyn yn codi eto a bod mynediad hwylus i’r rhai sy’n byw yn Sir Amwythig i allu dod i Bowys i gael addysg Gymraeg, a bod cludiant yn cael ei dalu amdano.
“Dyna rydyn ni’n gobeithio fydd y cam synhwyrol nesaf.
“Mae o’n rhywbeth mae Portffolio Addysg Powys yn ymwybodol ohono, a chadw’r pwysau hynny y byddwn i yn ei wneud.”
‘Unol â’r trefniadau’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys yr wythnos ddiwethaf fod pob cynnig ar gyfer lleoedd ysgolion cynradd ac uwchradd Medi 2024 wedi cael eu “gwneud yn unol â’r trefniadau derbyn cyhoeddedig a Chod Derbyn Ysgolion Llywodraeth Cymru”.
“Pan fo nifer y ceisiadau a dderbynnir yn fwy na’r nifer derbyniadau ar gyfer disgyblion, defnyddir meini prawf goralw a chynigir lleoedd yn unol â hynny,” meddai.
“Roedd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer derbyniadau i Lanrhaeadr ym Mochnant ar gyfer Medi 2024 yn fwy na’u rhif derbyn disgyblion o 15.”