Mae mam sydd wedi cael gwrthod addysg Gymraeg i’w mab yn dweud bod y sefyllfa’n torri ei chalon.
Dydy Cyngor Sir Powys heb roi lle i Ynyr, mab Lowri Jones, sy’n byw yng Nghroesoswallt yn Sir Amwythig, yn yr ysgol gynradd Gymraeg agosaf.
Yn hytrach, maen nhw wedi dweud bod rhaid i’r teulu holi Sir Amwythig am le iddo.
Mae Lluan, chwaer Ynyr, eisoes yn Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant, ac mae Ynyr wedi bod yn treulio’i gyfnod pontio yn yr ysgol honno.
“Dydyn nhw ddim yn cynnig unrhyw ysgol arall cyfrwng Cymraeg ym Mhowys fel opsiwn, felly maen nhw’n gwrthod addysg Gymraeg i Ynyr achos does yna ddim addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Amwythig,” meddai Lowri Jones wrth golwg360.
“Dw i’n torri fy nghalon yn meddwl bod Powys ddim am ganiatáu iddo fo fynd i’r un un ysgol â’i ffrindiau fo’i gyd, yr unig blant mae o’n eu hadnabod.”
Ar hyn o bryd, mae tua chwech o blant o Sir Amwythig yn Ysgol Llanrhaeadr y Mochnant, meddai Lowri Jones, ac mae Powys a Sir Amwythig wedi bod yn cydweithio ar addysg Gymraeg ers canol y 1980au.
Dim ond lle i bymtheg o ddisgyblion sydd ym mlwyddyn Derbyn yr ysgol, a chan fod deunaw wedi trio am le, mae tri ohonyn nhw wedi cael eu gwrthod.
Dydy’r teulu ddim yn teimlo bod Cyngor Sir Powys wedi dilyn eu meini prawf wrth ystyried pa ddisgyblion i’w blaenoriaethu chwaith.
Un o’r ystyriaethau hynny ydy bod gan y plentyn ‘angen cymdeithasol penodol’.
“Mae gan Ynyr angen cymdeithasol penodol i gael addysg Gymraeg,” meddai Lowri Jones, sy’n rhedeg Siop Cwlwm, siop Gymraeg Croesoswallt.
“Dw i’n deall eu bod nhw wedi dilyn y meini prawf, ond dydyn nhw heb ystyried yr angen cymdeithasol penodol sydd ganddo fo.
“Os ydyn ni’n edrych ar filiwn o siaradwyr Cymraeg, edrych ar Drawsnewid Addysg ym Mhowys a strategaeth addysg Gymraeg Powys, maen nhw i gyd yn dweud eu bod nhw eisiau cynyddu’r nifer o blant mewn addysg Gymraeg ac maen nhw’n gwrthod bachgen bach sy’n siarad Cymraeg yn naturiol bob dydd a heb lawer o Saesneg.
“Mae’n mynd i’r gwrthwyneb yn llwyr o’u polisïau nhw ym Mhowys.”
‘Hawliau ieithyddol ehangach’
Pryder y teulu ydy bod y penderfyniad yn gosod cynsail allai effeithio ar deuluoedd eraill sy’n byw ar y ffin ac sydd eisiau addysg Gymraeg i’w plant hefyd.
“Y broblem fawr sydd gennym ni – heb sôn am y ffaith bod Ynyr eisoes yn mynd i’r cylch yn yr ysgol, dw i ar bwyllgor y cylch, mae’r gŵr yn llywodraethwr, rydyn ni’n rhan ganolog o gymuned yr ysgol – y peth sydd wir yn achosi pryder ac yn egwyddor ehangach sy’n effeithio mwy nag ein teulu ni, yn y llythyr gwrthod mae o’n dweud oherwydd ein bod ni’n byw yn Sir Amwythig bod rhaid i ni ofyn i Sir Amwythig am le mewn ysgol,” meddai Lowri Jones wedyn.
“Rydyn ni eisiau i Ynyr gael lle yn yr ysgol lle mae o’n mynd drwy broses bontio ar hyn o bryd, ond rydyn ni hefyd yn teimlo bod o’n egwyddor ehangach.
“Mae hon yn ardal lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol y gymuned – iaith leiafrifol, ond iaith naturiol. Mae hi wedi bod yn iaith naturiol ar hyd y canrifoedd.
“Dydy’r Gymraeg erioed wedi diflannu o Groesoswallt a dod yn ôl, mae’r Gymraeg wastad wedi bod yma.”
Yn ogystal â llunio apêl i Gyngor Sir Powys, mae’r teulu yn ymchwilio i weld a fyddai’n bosib apelio dan gyfreithiau rhyngwladol – Confensiwn y Cenhedloedd Brodorol ar Hawliau Pobol Frodorol a Hawliau’r Cenhedloedd Unedig ar Leiafrifoedd – i sicrhau na fyddai teuluoedd eraill yn yr un sefyllfa.
“Rydyn ni’n teimlo bod Cymry Cymraeg Croesoswallt yn grŵp o bobol frodorol yn Lloegr,” meddai.
“Mae gennym ni hawl dan gyfraith ryngwladol nad oes neb wir wedi edrych arnyn nhw o’r blaen, ydy hyn yn enghraifft o sut allwn ni ddefnyddio’r hawliau dan y Cenhedloedd Unedig i sicrhau bod Powys a Sir Amwythig yn cydweithio yn y dyfodol fel nad oes yna’r un teulu arall [yn mynd drwy’r un peth].
“Rydyn ni wedi cychwyn Ti a Fi yma sydd efo Clwb Cwtsh yn rhedeg ar hyn o bryd. Fel rhan o gylch gorchwyl y Ti a Fi, rydyn ni’n trio annog teuluoedd i ystyried addysg ddwyieithog.
“Dw i wir yn poeni bod y teuluoedd yma efo babis yn dod i Glwb Cwtsh, yn ystyried addysg Gymraeg i’w plant nhw, a’u bod nhw’n cyrraedd yr amser i’r plentyn fynd i’r ysgol a bod Powys yn derbyn nhw.
“Mae yna egwyddor lot ehangach o ran cydraddoldeb a hawliau ieithyddol, a chydnabyddiaeth yng Nghymru bod yna ddiwylliant Cymraeg tu hwnt i’r ffin a bod angen ystyried hynny’n angen cymdeithasol penodol yn yr achos yma.”
Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaeth Cyngor Sir Powys lofnodi Partneriaeth y Gororau gyda chynghorau sir Henffordd, Mynwy ac Amwythig i gydweithio’n agosach.
“Mae’n dangos nad ydy hynny’n wir, dydyn nhw ddim yn cydweithio, fel arall fysa nhw heb wrthod Ynyr,” meddai Lowri Jones, sydd wedi sefydlu deiseb yn gwrthwynebu’r penderfyniad.
‘Hurt bost’
Dywed Elwyn Vaughan, arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys, fod rhai o benderfyniadau’r Cyngor yn “hurt bost” sy’n dangos “dim byd ond twpdra llwyr”.
“Nid yn unig mae’r sylw hynny yn dangos twpdra llwyr a diffyg dealltwriaeth sylfaenol o’r anghenion addysgol, ond mae hyd yn oed yn fwy hurt o ddeall fod y bachgen wedi bod yn mynychu ysgol Feithrin Llanrhaeadr a bod ei chwaer eisoes yn mynychu’r ysgol,” meddai.
“Rwyf felly wedi gofyn i’r Prif Weithredwr gael trefn ar y nonsens yma.
“O fewn mis byddwn yn croesawu pobl ifanc Cymru i Faldwyn, yn ymfalchïo yn eu gallu ac yn amlygu manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg – gadewch i’n pobl ifanc lleol yma hefyd rannu’r manteision hynny yn ddidrafferth.”
‘Unol â’r trefniadau’
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys bod pob cynnig ar gyfer lleoedd ysgolion cynradd ac uwchradd Medi 2024 wedi cael eu “gwneud yn unol â’r trefniadau derbyn cyhoeddedig a Chod Derbyn Ysgolion Llywodraeth Cymru”.
“Pan fo nifer y ceisiadau a dderbynnir yn fwy na’r nifer derbyniadau ar gyfer disgyblion, defnyddir meini prawf goralw a chynigir lleoedd yn unol â hynny. Os gwrthodir cais am le, cynghorir rhieni / gofalwyr am eu hawl statudol i apelio.
“Roedd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer derbyniadau i Lanrhaeadr ym Mochnant ar gyfer Medi 2024 yn fwy na’u rhif derbyn disgyblion o 15.”