Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n lleihau gwaith torri gwair gymaint â phosibl yn ystod mis Mai i fynd i’r afael â’r argyfwng natur.

Daw’r cyhoeddiad ar Ddiwrnod y Ddaear heddiw (dydd Llun, Ebrill 22).

Bwriad ymgyrch ‘Mai Di Dor’ Plantlife yw mynd i’r afael â sut mae graddfa a chyfradd y golled o ran bioamrywiaeth ledled Cymru yn cyflymu.

Mae pob trydedd cegaid o fwyd rydym yn ei fwyta wedi cael ei greu yn sgil peillio, a heb bryfed peillio byddai ein cyflenwad bwyd yn chwalu.

Mae hanner y 27 rhywogaeth o gacwn yn yng ngwledydd y Deyrnas Unedig yn prinhau.

O’r 43 rhywogaeth o löynnod byw yng Nghymru, mae deg ohonyn nhw’n prinhau’n ddifrifol ac 17 yn prinhau.

Mae nifer o resymau dros y gostyngiad mewn pryfed peillio, fel newid yn yr hinsawdd, llygredd a phlaladdwyr, a newid yn y ffordd y caiff tir ei reoli.

Helpu bioamrywiaeth

Drwy gydol y tymor tyfu, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn torri glaswellt a llystyfiant mewn ardaloedd fel coedwigoedd, gwarchodfeydd natur, glannau afonydd, amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac argloddiau cronfeydd dŵr.

Bydd lleihau’r gwaith torri gwair ym mis Mai yn helpu bioamrywiaeth drwy ganiatáu i blanhigion y gwanwyn fwrw eu hadau a thyfu i ddarparu neithdar a phaill ar gyfer peillwyr, fel gwenyn a gloÿnnod byw.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n lleihau eu gweithgareddau torri gwair ym mis Mai gymaint â phosibl, ond bydd gwaith torri gwair hanfodol yn parhau mewn rhai ardaloedd ledled Cymru.

Mae sawl rheswm am hyn, gan gynnwys:

  • rheoli mynediad at goedwigoedd a gwarchodfeydd natur i sicrhau bod pobol yn ddiogel pan fyddan nhw’n ymweld
  • archwilio amddiffynfeydd rhag llifogydd a’u trwsio’n hawdd os oes angen, gan helpu i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau.
  • ar gyfer cadwraeth natur, er enghraifft i reoli rhywogaeth oresgynnol neu er budd rhywogaethau mewn ardal benodol drwy dorri’r llystyfiant.

‘Gallwn ni i gyd helpu’

Yn ôl David Letellier, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru, gall pawb chwarae eu rhan wrth amddiffyn pryfed peillio.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac i helpu pobol a byd natur i ffynnu gyda’n gilydd,” meddai.

“Byddwn yn lleihau ein gweithgareddau torri gwair ym mis Mai gymaint â phosibl i gefnogi pryfed peillio, ond rydym am i bobol ddeall y byddwn efallai’n cynnal gwaith torri gwair hanfodol er budd cymunedau neu rywogaethau penodol.

“Er enghraifft, efallai y byddwn yn parhau i dorri o amgylch amddiffynfeydd rhag llifogydd i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn, neu pe bai torri gwair mewn rhai safleoedd ym mis Mai yn gadael i flodau gwyllt adfer a blodeuo drwy gydol yr haf a fyddai o fudd i rai peillwyr.

“Mae angen i ni weithredu nawr i amddiffyn ein peillwyr.

“Dyna pam rydym yn rheoli ein holl safleoedd i’w gwneud mor addas i bryfed peillio â phosibl ac i ddarparu bwyd a lloches i rywogaethau eraill.

“Mae yna bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i’w gwneud hi’n haws i bryfed peillio oroesi.

“Gall y rhain fod yn gymharol syml, fel rheoli lleiniau glas mewn ffordd fwy sensitif, neu adael ardaloedd gwyllt o amgylch ein swyddfeydd, ein cartrefi a’n hadeiladau cyhoeddus.

“Gallwn ni i gyd helpu trwy wneud ein gerddi’n addas i beillwyr trwy beidio â defnyddio plaladdwyr, peidio â thorri’r lawnt mor aml, a thyfu planhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr.”