Mae ymgeisydd seneddol Plaid Cymru’n galw am ddatganoli Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol i Gymru.

Dr Gwyn Williams yw darpar ymgeisydd y Blaid ar gyfer sedd Gorllewin Abertawe yn etholiadau San Steffan, ac mae’n galw am ddatganoli’r post o dan faner Post Cymru yn dilyn yr etholiad.

Senedd Cymru fyddai’n goruchwylio’r gwasanaeth yn ôl ei gynlluniau.

Mae Gwyn Williams hefyd yn galw ar arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol i gynnwys addewid i ddatganoli’r Post yn llawn ynghyd â phwerau deddfu a chyllid cyflenwol yn eu maniffestos.

‘Gwasanaeth eilradd ers canrif a mwy’

“Cafodd ein postfeistri a’n postfeistresi eu trin yn gwbl gywilyddus gan gorff estron a haerllug, ac mae’n hen bryd iddyn nhw a phobol Cymru gael chwarae teg”, meddai Dr Gwyn Williams.

“Mewn gwirionedd, mae Cymru wedi gorfod derbyn gwasanaeth eilradd ers canrif a mwy – gyda’r prif swyddi a’r gwaith dosrannu’r post wedi’u lleoli dros y ffin.

“Yn wyneb y driniaeth wael yma, rwy’n bendant o’r farn y dylai unrhyw iawndal ar gyfer ail-wladoli’r Bost Frenhinol fod yn ddarbodus iawn.”