Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C, gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Angela Pearson, sy’n byw yn Rugby yn Swydd Warwick, sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Ffermio ar S4C.

Mae Angela wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2019. Dechreuodd ddysgu ar Duolingo a SaySomethingInWelsh. Rŵan, mae hi’n dysgu Cymraeg ar-lein efo Dysgu Cymraeg/Prifysgol Aberystwyth.


Angela, beth ydy dy hoff raglen ar S4C a pam wyt ti’n ei hoffi?

Ffermio ydy fy hoff rhaglen ar S4C. Does gen i ddim teledu ond dw i’n gwylio’r rhaglen pan dw i’n ymweld â fy nhad i.

Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?

Dw i’n licio’r rhaglen achos mae gen i ddiddordeb mewn amaethyddiaeth a chefn gwlad.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Mae’r cyflwynwyr yn cyflwyno’r rhaglen yn dda a chlir, sydd yn dangos eu diddordeb a’u brwdfrydedd dros y pynciau maen nhw’n eu cyflwyno.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Mae’r rhaglen yn dda i ddysgwyr achos ei bod yn ymdrin â phynciau dydyn ni ddim yn eu trafod yn y dosbarth felly mae’n cynyddu’n geirfa yng Nghymraeg y de a Chymraeg y gogledd.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae gan y cyflwynwyr acenion gwahanol felly mae’n helpu i wella sgiliau gwrando, ac mae S4C hefyd yn defnyddio isdeitlau i helpu efo geiriau anodd.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Mi fyswn i’n bendant yn argymell i bobl eraill wylio Ffermio ar gyfer yr iaith ac am wybodaeth uniongyrchol am amaethyddiaeth.

Mae Ffermio ar S4C nos Lun am 9yh