Mae un o’r plant olaf i gael addysg yn Ysgol Cribyn wedi cyhoeddi cywydd i gefnogi ymgyrch y gymuned i brynu adeilad yr hen ysgol.
Bymtheg mlynedd ers cau’r ysgol, ac yntau bellach yn gwneud ei farc ar y llwyfan eisteddfodol, mae cywydd Ianto Jones – neu Ianto Frongelyn i bawb yng Nghribyn a Dyffryn Aeron – yn rhan ganolog o ffilm Facebook ac Instagram.
Yn 2021, enillodd e Gadair Eisteddfod Sir Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion, ac Eisteddfod Genedlaethol y mudiad hefyd.
Eleni, wrth i Alaw Fflur fynd â’r Goron yn ôl i Felin-fach, aeth Ianto Jones â’r Gadair adref o Fôn.
Mae’n fyfyriwr yn nosbarth cynganeddu Tafarn y Vale yn Nyffryn Aeron, dan arweiniad y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan.
‘Ased i gryfhau’r Gymraeg a’i chymdeithas’
“Pan ofynnwyd i fi a fydden i’n barod i sgwennu cywydd i gefnogi’r fenter, ges i bach o ofn i ddechrau,” meddai Ianto Jones. “Mae’n dipyn o her.
“Ond wedyn, o weld gymaint yn cyfrannu chwys eu llafur i wneud yn siŵr fod yr ysgol yn sefyll yn ased i gryfhau’r Gymraeg a’i chymdeithas, doedd dim dewis ond mynd amdani!”
‘Braf yw edrych yn ôl, ond mae ’da ni le i edrych ymlaen yn hyderus’ yw neges y cywydd.
Wrth i Ianto Jones ei darllen yn gyhoeddus am y tro cyntaf yng nghyfarfod lansio ymgyrch yr ysgol, roedd gwefr yn rhedeg drwy’r dorf fawr wrth iddo yngan y cwpled clo:
Yn sŵn yr oes bresennol
fe fydd llawenydd yn ôl.