Bydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn cael ei chynnal ar Gae Sioe Môn yng Ngwalchmai.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yno rhwng Mai 25-31, 2026 wrth iddi ddychwelyd i’r ynys am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.

Mae’r Eisteddfod yn galw am enwebiadau ar gyfer Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Bydd y Llywyddion y Dydd yn ffigyrau adnabyddus lleol, sy’n cynrychioli’r ynys ac yn esiampl i blant a phobol ifanc heddiw.

Bydd y Llywyddion Anrhydeddus yn unigolion sydd wedi rhoi oes o gyfraniad i’r Urdd, trwy wirfoddoli, cefnogi neu hyfforddi.

Mae gwybodaeth bellach am sut i gofrestru i wirfoddoli ynghyd â ffurflenni enwebu Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus ar gael ar wefan Eisteddfod yr Urdd.

‘Edrych ymlaen yn eiddgar’

“Mae ugain mlynedd ers y cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn ddiwethaf, felly rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei chroesawu eto yn 2026,” meddai Manon Wyn Williams, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2026.

“Mae’r paratoadau wedi dechrau a’r pwyllgorau wedi eu sefydlu ac mae gennym griw arbennig o wirfoddolwyr gweithgar a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad hyd yma.

“Nid mater bach yw cynnal gŵyl genedlaethol fel hon ac mae llawer o waith i’w wneud eto dros y ddwy flynedd sydd i ddod.

“Y cam nesaf yw sefydlu’r pwyllgorau apêl ymhob cymuned ledled yr Ynys a fydd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian.

“Byddai’n wych gweld cynifer â phosibl yn ymuno â’r pwyllgorau hyn a hoffem weld holl blant a phobol ifanc yr Ynys yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r trefniadau er mwyn sicrhau y bydd hi’n Eisteddfod i’w chofio – mae croeso i bawb.”

“Dathlu ac ymfalchïo” yng Nghymreictod yr ynys

“Braf iawn yw clywed fod Cae Sioe Môn wedi ei ddewis yn gartref i Eisteddfod yr Urdd 2026,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.

“Mae’r Ynys a’i thrigolion yn edrych ymlaen yn eiddgar at gynnal yr ŵyl arbennig yma.

“Bydd yn gyfle i ddathlu ac ymfalchïo yn ein Cymreictod ac i estyn croeso cynnes i blant a phobol ifanc o bob rhan o Gymru i’n Sir ni.

“Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Urdd er mwyn sicrhau bod ni’n gwneud y mwyaf o’r cyfle rhagorol yma i ni ddangos Ynys Môn ar ei gorau.”

Bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn cael ei chynnal Fferm Mathrafal rhwng Mai 27 a Mehefin 1.

Parc Margam fydd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd rhwng Mai 27-Mehefin 1, 2025, wrth i Gastell-nedd Port Talbot ei chynnal am y tro cyntaf ers 2003.