Bydd gan y rhaglen Heno ar S4C gyflwynwyr a set newydd wrth iddi gael ei hail-lansio heno (nos Lun, Ebrill 22).

Bydd Mirain Iwerydd, James Lusted a Paul ‘Stumpey’ Davies yn ymuno â’r tîm cyflwyno, sef Elin Fflur, Alun Williams, Owain Tudur Jones ac Angharad Mair.

Y newid mawr arall fydd soffa oren newydd, fydd yn disodli’r hen soffa felen.

Er y newidiadau fydd i wedd y rhaglen, fe fydd Heno yn dal i ddod â holl straeon Cymru i’r gwylwyr ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 7 o’r gloch o nos Lun i nos Wener, medd y sianel.

Fe fydd camerâu Heno yn parhau i deithio ledled Cymru bob wythnos, ac yn ymweld â phob cwr o’r wlad, gan gynnwys Hen Golwyn, Abertawe, Pen Llŷn, y Rhondda, Wrecsam a mwy.

‘Eiconig’

“Mae hi’n mynd i fod yn rhyfedd, oherwydd mae’r soffa felen yn eiconig, yn cult hero, ond dwi’n meddwl bod yr amser wedi dod am change bach…” meddai Owain Tudur Jones.

“Fedra i weld dros amser y bydd y soffa oren yn troi yn eicon ei hun.”

Mae Angharad Mair wedi bod yn aelod o dîm Heno ers 33 o flynyddoedd bellach.

“I fi, y peth pwysicaf am Heno, ac wedi bod ers y dechrau ac sy’n parhau fel ethos y rhaglen, yw’r gwylwyr,” meddai.

“Rhaglen y gwylwyr yw Heno yn fwy na dim. Nhw sy’n berchen y rhaglen.

“Mae’n braf gallu adlewyrchu yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd mewn cymunedau gwahanol yng Nghymru ac adlewyrchu holl dalentau Cymru hefyd.

“Er ein bod ni’n aml yn poeni am sefyllfa y Gymraeg, y gwir yw, yn sgil llwyddiant addysg Gymraeg, mae croestoriad mwy amrywiol o siaradwyr Cymraeg erbyn hyn.

“Mae Cymry Cymraeg nawr yn llwyddiannus ymhob math o feysydd ym mhob cwr o’r byd, ac mae’n beth braf gallu adlewyrchu hynny ar Heno hefyd.”

Mae croeso i unrhyw un awgrymu straeon ar gyfer y rhaglen, a hefyd i wahodd tîm Heno i fynychu eu digwyddiadau.

Cymunedau

“Mae’n braf ein bod ni yn y digwyddiadau mawr yn siarad efo’r actorion, cantorion ac yn y blaen; pwysicach fyth yw ein bod ni yn ein cymunedau yn siarad efo pobol am y pethau sydd yn effeithio ar deuluoedd a phobol o fewn ein cymunedau,” meddai Elin Fflur.

“Mae’n bwysig i ni beidio eistedd yn llonydd, ein bod ni’n parhau i ymateb i beth sydd yn digwydd gan gadw at wreiddiau’r rhaglen.”

Mae’r rhaglen gylchgrawn Prynhawn Da, sydd hefyd yn darlledu’n fyw o stiwdio Llanelli yn ystod y prynhawn, hefyd yn cael gweddnewidiad.

Gallwch chi weld Prynhawn Da ar S4C am 2 o’r gloch, o ddydd Llun i ddydd Gwener.