Mae’r BBC yn dweud bod y darlledwr Huw Edwards wedi gadael y Gorfforaeth yn dilyn “cyngor meddygol”.

Dydy e ddim wedi bod ar yr awyr ers mis Gorffennaf y llynedd, yn dilyn honiadau ei fod e wedi talu person ifanc am luniau o natur rywiol.

Dywed y BBC eu bod nhw wedi derbyn ei ymddiswyddiad “fydd yn galluogi pob ochr i symud ymlaen”, ac na fyddai’n “briodol” iddyn nhw wneud sylw pellach.

Iechyd meddwl

Daw ymadawiad Huw Edwards naw mis ar ôl i’w wraig Vicky Flind ddweud ei fod e’n derbyn triniaeth iechyd meddwl yn yr ysbyty.

Yn ôl adroddiadau yn The Sun, roedd cyflwynydd y BBC – oedd heb ei enwi ar y pryd – wedi talu llanc 17 oed am luniau o natur rywiol.

Cafodd yr adroddiadau eu hwfftio’n ddiweddarach, ar ôl i’r papur ddweud bod mam a llystad y llanc wedi mynd atyn nhw.

Vicky Flind oedd wedi enwi ei gŵr mewn perthynas â’r achos yn y pen draw, a hynny am ei bod hi’n poeni am ei iechyd meddwl a lles eu plant, meddai.

Doedd Heddlu Llundain ddim wedi dwyn achos yn ei erbyn, gan ddweud nad oedd e wedi cyflawni trosedd.

Dydy Huw Edwards ddim wedi derbyn tâl wrth ymddiswyddo, meddai’r BBC.