Mae cynllun llenyddol wedi bod yn sbardun i ailagor cartref yr awdures Kate Roberts.
Ers y cyfnod clo, mae drysau Cae’r Gors yn Rhosgadfan ger Caernarfon wedi bod ar gau.
Cafodd y tŷ ei ddefnyddio’n ddiweddar fel lleoliad ar gyfer un o brosiectau Llên Mewn Lle, cynllun gan Llenyddiaeth Cymru â chefnogaeth WWF Cymru, sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur drwy lenyddiaeth.
Mae’r gweithdai sydd wedi bod yn cael eu cynnal yno wedi bod yn ysgogiad i ymgyrch i ailagor Cae’r Gors i’r gymuned.
Y nod yw ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol, a lleoliad fyddai’n eiddo i gymuned Rhosgadfan.
Erbyn hyn, mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn edrych ymlaen at bennu camau nesaf y bwthyn.
‘Cysylltu gyda’r tir’
Iola Ynyr sydd wedi bod yn gyfrifol am brosiect Gwledda, sy’n dod dan Llên Mewn Lle, yn Rhosgadfan.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r prosiect wedi arwain at nifer o weithgareddau, megis plannu coed ar dir Ysgol Rhosgadfan, dysgu am y gylchred garbon gyda GwyrddNi; adeiladu tai pryfaid, teithiau cerdded, ac ysgrifennu a rhannu cerddi a darnau o ryddiaith.
Fis diwethaf, cafodd cerflun o glogyn brethyn Kate Roberts, wedi’i wneud o bren gan yr artist Simon O’Rourke, ei ddadorchuddio yno.
“Mae’r cerflun yn gofnod hardd o brosiect Gwledda, yn cyfleu’r gymuned y llwyddwyd i’w chreu trwy greadigrwydd,” meddai Iola Ynyr.
“Mae’n dathlu sut y gall cysylltu gyda’r tir rymuso ein llesiant a chyflwyno ein milltir sgwâr mewn goleuni newydd.”
‘Hanfodol o bwysig’
Y cynghorydd Arwyn ‘Herald’ Roberts sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch i ailagor cartref ‘Brenhines Ein Llên’.
“Llongyfarchiadau i’r criw sydd wedi bod yn brysur ar gynllun Gwledda yng Nghae’r Cors, Rhosgadfan o dan adain Llenyddiaeth Cymru,” meddai.
“Braf gweld ffrwyth eu gwaith yno yn cael ei ddadorchuddio ar y safle yn ddiweddar yng nghwmni plant y pentref a’r criw a gymerodd ran yn y cynllun.
“Mae cynllun o’i fath yn hanfodol o bwysig i hybu llenyddiaeth ein bro i’r genhedlaeth i ddod.”
‘Plannu coed a choginio lobsgóws’
Mae Llên mewn Lle yn cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu a chyflawni gweithgaredd yn eu cymuned leol, ac mae criwiau wedi bod wrthi yn Abertawe a Threherbert hefyd.
“Diolch i gymuned Rhosgadfan am eu croeso cynnes dros y misoedd diwethaf,” meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru.
“Mae aelodau o’r gymuned – yn blant, rhieni, a thu hwnt – wedi dangos creadigrwydd a dewrder yn trafod effeithiau brawychus yr argyfwng hinsawdd a heriau cyffredinol bywyd drwy ysgrifennu o’r galon am eu profiadau.
“Diolch hefyd i Iola am ei gweledigaeth.
“Braf cael gweld prosiect ysgrifennu yn cyflwyno elfennau mor amrywiol â phlannu coed a choginio lobsgóws, a thrwy hynny’n llwyddo dod â phobol a phrofiadau ynghyd.”
Fis yma, bydd cymunedau Tyddewi a Bethesda yn cael cefnogaeth i gymryd rhan mewn prosiectau tebyg hefyd.