Roedd 14% yn llai o drais arweiniodd at anafiadau yng Nghymru a Lloegr rhwng 2022 a 2023, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Dywed yr ymchwil y bu gostyngiad yn y trais sy’n effeithio ar bobol ifanc 18 i 30 oed, gyda 141,804 o bobol wedi gorfod mynd i adrannau brys ysbytai yn 2023 – sy’n ostyngiad o 22,919 o gymharu â 2022.

Mae’r gostyngiad yn adlewyrchu’r gostyngiad a fu ers blynyddoedd Covid-19 hefyd.

Roedd gostyngiad o 3.7% ymhlith pobol ifanc 11 i 17 oed, a gostyngiad o 15.8% ymhlith pobol 31 i 50 oed.

Ond roedd cynnydd o 52.8% ymhlith plant dan ddeg oed ac o 7.7% ymhlith pobol dros 50 oed.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ddata o 219 o adrannau brys, unedau mân anafiadau a chanolfannau galw heibio.

Y Grŵp Ymchwil ar Drais, sy’n rhan o Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth y Brifysgol luniodd y pedwerydd adroddiad blynyddol ar hugain ar drais difrifol yng Nghymru a Lloegr.

Mae’n seiliedig ar ddata’r Rhwydwaith Cenedlaethol Goruchwylio Trais mewn Adrannau Achosion Brys dan arweiniad yr Athro Vaseekaran Sivarajasingam.

Dadansoddi’r data

“Yn 2023, roedd y gostyngiadau mewn niwed trais difrifol wedi digwydd yn fwy ymhlith dynion, i lawr 18%, nag yn achos menywod, i lawr 5%,” meddai’r Athro Jonathan Shepherd o Grŵp Ymchwil Prifysgol Caerdydd ar Drais, a chyd-awdur yr adroddiad.

“Mae ein hymchwil yn dangos gostyngiad sylweddol mewn anafiadau yn sgil trais yng Nghymru a Lloegr yn 2023 o’i gymharu â 2022, yn bennaf oherwydd gostyngiadau ymhlith pobol rhwng 18 a 30 oed.

“Mae angen trin cynnydd amcangyfrifedig 53% yn nifer y plant 0-10 oed sy’n mynd i adrannau brys yn dilyn trais yn lled ofalus oherwydd bod y niferoedd yn isel, sef 1,279 yn 2023, ac mae’r rhain yn amrywio gan ddibynnu ar y flwyddyn.

“Er enghraifft, y nifer amcangyfrifedig yn 2022 oedd 699.”

Yn ôl yr adroddiad, roedd gwrywod yn 2023 ddwywaith yn fwy tebygol na menywod o gael eu trin am anaf yn ymwneud â thrais.

Yn gyffredinol, roedd hyn yn digwydd yn amlach ar benwythnosau nag yn ystod dyddiau’r wythnos, ac ym mis Mai – tueddiadau sy’n debyg i’r rheini gafodd eu nodi mewn blynyddoedd blaenorol.

“Mae rhoi strategaethau ar waith yn debygol o fod yn un o brif achosion y cwymp sylweddol yn nifer y bobol a gafodd driniaeth frys mewn ysbytai ac a anafwyd oherwydd trais yn 2023, o’i gymharu â 2022,” meddai’r Athro Jonathan Shepherd.

Ymhlith y strategaethau hyn mae cynlluniau atal penodol ar y cyd gan yr heddlu, awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ogystal â phlismona manwl gywir.

“Hwyrach bod y gostyngiad ymhlith oedolion 18-30 oed hefyd yn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn aros gartref gyda’u rhieni yn hirach nag o’r blaen,” meddai wedyn.

“Mae trais difrifol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ein hadroddiad, wedi gostwng 55% ers 2010 a 66% ers 2001.

“Bellach, mae Cymru a Lloegr lawer yn fwy diogel.”