Mae Adra a GISDA yn cydweithio i gryfhau cysylltiadau rhwng Cymru a Chernyw, gan ganolbwyntio’n benodol ar dwristiaeth.

Mewn partneriaeth â GISDA, mae Adra wedi cyhoeddi eu cydweithrediad gyda chefnogaeth Rhaglen Taith Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o feithrin cysylltiadau rhwng Gwynedd a Chernyw.

Gyda’i gilydd, maen nhw wedi cychwyn menter ar y cyd i ymchwilio i ôl-effaith y diwydiant twristiaeth yn y ddwy ardal.

Mae eu ffocws yn ymestyn i ddeall yr effaith ar yr iaith, diwylliant, a fforddiadwyedd tai i bobol ifanc o fewn y cymunedau.

Mae llofnodi ‘Cytundeb Cernyw a Chymru’ gan Lywodraeth Cymru yn tanlinellu eu hymrwymiad i wella cysylltiadau rhwng y ddau ranbarth.

Trwy gydol eu taith ddiweddar i Gernyw, bu’r tîm yn ymgysylltu â sefydliadau amrywiol, gan gynnwys St. Petrocs, Harbour Housing, ‘The House,’ Swyddfa Iaith Cernyw, a Chyngor Cernyw, ymhlith eraill, gan ddweud eu bod nhw’n ymroddedig i gynnal y cysylltiadau hyn.

‘Tebygrwydd’

“Roedd yn fraint cael gwahoddiad i Gernyw i weld yr holl waith anhygoel sy’n cael eu gwneud,” meddai Gemma Owen, Rheolwr Cynorthwyol Tai Fforddiadwy Adra.

“Roedd yn wych gweld y tebygrwydd rhwng y Gymraeg a Chernyweg a thrafod cynlluniau’r Cyngor i hybu’r iaith a thyfu nifer y siaradwyr dros y blynyddoedd nesaf.

“Cawsom ein synnu gan ba mor debyg yw Cernyw i ogledd Cymru o ran y tirwedd a’r heriau a wynebir.

“Mae gweld y gwaith sydd yn cael ei gwneud wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig a gweld y gwahaniaeth a wneir i gymunedau Cernywaidd, ac yn braf gweld sefydliadau blaengar o’r fath.”

‘Mwy yn gyffredin nag a wyddom’

Dywed Jess Brown, Swyddog Gosod Adra, eu bod nhw’n “ddiolchgar iawn” am “brofiad mor ysbrydoledig”.

“Mae gan Gernyw a Gogledd Cymru fwy yn gyffredin nag a wyddom; mae cyfarfod â phobol a sefydliadau mor ysbrydoledig wedi bod yn fraint yn enwedig i ddeall sut maen nhw’n mynd i’r afael â’r argyfwng tai a digartrefedd.

“Rwyf wedi dysgu cymaint ag rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol agos.”

Yn ôl Siân Tomos, Prif Weithredwraig GISDA, “mae’r potensial i gydweithio yn enfawr”.

“Hoffwn ddiolch i Adra am eu cefnogaeth a’u parodrwydd i gydweithio i greu’r bartneriaeth bwysig hwn,” meddai.

“Byddwn yn mynd ati rwan i ledaenu’r hyn ydym wedi ei ddysgu gydag eraill a datblygu cyfleoedd newydd i eraill yn ogystal.”