Planed v Plastigau yw thema Diwrnod y Ddaear 2024 heddiw (dydd Llun, Ebrill 22).

Y nod yw codi ymwybyddiaeth eang o’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â phlastigion, dileu ar fyrder pob defnydd o blastigion untro, gwthio ar frys am gytuniad cryf gan y Cenhedloedd Unedig ar Lygredd Plastig, a mynnu rhoi’r gorau i ffasiwn gyflym.

Cafodd Diwrnod y Ddaear ei gynnal am y tro cyntaf ym 1970, ac ers hynny, mae EARTHDAY.ORG wedi annog dros 1bn o bobol bob blwyddyn ar Ddiwrnod y Ddaear, a phob diwrnod arall, i amddiffyn y blaned.

Bu golwg360 yn holi arbenigwyr y maes am ffyrdd syml y gallwn ni i gyd sicrhau ein bod ni’n defnyddio llai o blastig…


Prynwch botel ddŵr neu gwpan goffi dda

Yn ôl criw GwyrddNi, y mudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi’i leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned, mae’n bwysig cael potel ddŵr neu gwpan goffi o safon.

“Dydi ail-ddefnyddio potel ddŵr sy’n rhad ddim yn syniad da, gan fod mwy a mwy o microblastig yn gollwng i mewn i’ch diod dros amser,” medden nhw.


Chwiliwch am siopau dim gwastraff

Mae GwyrddNi hefyd yn pwysleisio effeithiolrwydd defnyddio siopau dim gwastraff.

“Chwiliwch am siopau dim gwastraff (zero waste), lle gallwch lenwi jar neu botel efo pethau fel hylif golchi, reis neu flawd.

“Yn aml mae’r siopau yma hefyd yn gwerthu opsiynau tu hwnt i blastig, fel brwsh dannedd pren neu fagiau bach i’w defnyddio yn y siop.”


Gosod hidlydd micro blastigau yn eich peiriant golchi

Darnau o blastig sy’n mesur llai na phum milimetr ydy micro blastigau, ac maen nhw’n dod o bethau fel dillad pan fyddwch yn golchi dillad wedi’i wneud o polyester.

Mae Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear Cymru, yn awgrymu gosod hidlydd yn eich peiriant golchi i ddal y micro blastigau cyn iddyn nhw fynd i mewn i’ch draen.

“Os ydyn nhw’n diflannu i lawr eich draen ac i mewn i’r peipiau, byddan nhw’n gwneud eu ffordd i mewn i’r dŵr gwastraff, a byddan nhw wedyn yn gallu gwneud eu ffordd i mewn i’r môr neu gallan nhw fod yn y dŵr sy’n cael ei roi i ffermwyr a’u gwasgaru ar y tir ffermio,” meddai.

“Felly gall pobol un ai prynu a gosod hidlydd yn eu peiriant golchi neu beidio golchi dillad polyester mor aml, ac edrych ar ffyrdd o fod yn fwy cynaliadwy pan ddaw at ddillad.”

Mae gan Gyfeillion y Ddaear lawer o adnoddau’n ymwneud â darganfod pa gamau y gallwch eu cymryd i wneud eich bywyd a’ch cymuned yn fwy cyfeillgar i’r hinsawdd.


Defnyddiwch beth sydd gennych nes iddo dorri

Gair o gyngor gan Laura Fielding, perchennog siop ddi-wastraff Nood Food yn Llanfairfechan yn Sir Conwy, yw defnyddio’r eitemau sydd gennych nes eu bod nhw’n torri.

“Pan fydd gennych chi focs tupperware plastig, peidiwch â’i daflu,” meddai wrth golwg360.

“Os ydych chi’n ei daflu, rydych chi’n rhoi rhywbeth sy’n berffaith iawn i’w ddefnyddio yn syth mewn i safle tirlenwi.

“Defnyddiwch o nes bydd o wedi torri’n llwyr ac nad yw’n bellach yn bosibl ei ddefnyddio.

“Wedyn ewch ati i ffeindio i ddewis amgen cynaliadwy, fel un gwydr, neu ffeindiwch ddefnydd newydd am rywbeth sydd gennych yn barod.

“Weithiau rydan ni’n cael ein dallu gan eitemau cynaliadwy neis fel eitemau wedi’i wneud o fambŵ – ac maen nhw’n lyfli – ond defnyddiwch beth sydd gennych gyntaf cyn mynd i banig a phrynu stwff newydd cynaliadwy.”


Têc-awê mwy cynaliadwy

Hoffi têc-awê?

Mae llawer o lefydd yn fodlon rhoi eich bwyd yn eich bocs eich hun, e.e. tupperware y gallwch ei olchi, yn hytrach na chael bocsys plastig neu bolystyren, yn ôl criw GwyrddNi.


Ydw i wir angen y peth yma?

Yn ôl GwyrddNi, y peth pwysicaf ydy meddwl, “Ydw i wir angen y peth yma?”, cyn archebu rhywbeth ar-lein neu ei brynu, a meddwl ymlaen llaw beth fyddwch chi ei angen drwy’r dydd, er enghraifft eich cwpan coffi neu lwy.

“Trwy ddechrau mabwysiadu meddylfryd o fod yn fwy ymwybodol o’r plastig rydych yn ei ddefnyddio, byddwch yn sylweddoli eich defnydd ohono yn gostwng, ac efallai byddwch yn dod o hyd i rywbeth hollol newydd ac annisgwyl!”