Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau dau gynllun cyllido gwerth £20m i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith ffermydd, i geisio helpu i ymdopi yn well ag effaith bosibl newid hinsawdd.
Mae’r pecyn o fesurau yn rhan o’r ymrwymiad o dan y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i weithio gyda’r gymuned ffermio wrth ddefnyddio’r rheoliadau i wella ansawdd dŵr ac aer.
Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r cyllid newydd, maen nhw’n dweud bod yr heriau ariannol yn parhau i ffermwyr.
Y cynlluniau
Mae £20m wedi’i neilltuo ar gyfer dau gynllun i gefnogi ffermwyr i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
Bydd y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion a’r cynllun Grantiau Bach – Gorchuddion Iardiau yn agor yn fuan.
Mae’r ddau gynllun wedi’u cynllunio i alluogi ffermwyr i fynd i’r afael â rheoli a storio maetholion, drwy ddarparu cymorth ar gyfer capasiti storio slyri ychwanegol a/neu atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i storfeydd slyri i leihau gofynion y capasiti storio.
Mae’r gefnogaeth wedi cynyddu i ddarparu uchafswm o 50% o gyfraniad tuag at gostau penodol y prosiect
Bydd canllawiau manwl ar gael yn fuan, gyda’r ddau gynllun ar agor erbyn yr haf.
‘Rhaid i ni weithredu heddiw’
Yn ddiweddar, bu Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cymru, yn cadeirio’r Uwchgynhadledd Tywydd Eithafol, fu’n trafod effaith y cyfnod hir o dywydd gwlyb ar ffermwyr a thyfwyr.
Dywed fod effaith y tywydd gwlyb diweddar wedi dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn gwytnwch.
“Yn ystod yr Uwchgynhadledd clywais am broblemau sylweddol mewn perthynas â gallu storio slyri,” meddai.
“Er bod y tywydd wedi gwella ychydig yn ddiweddar, bydd yr oedi cyn gallu gweithio’r tir a chostau cynyddol yn ystod misoedd estynedig y gaeaf yn cael effeithiau tymor byr, canolig a hir.
“Rwy’n falch o gyhoeddi’r cynlluniau hyn, a fydd yn helpu ffermwyr i adeiladu gwytnwch i dywydd eithafol.
“Bydd yr arian hefyd yn cefnogi ffermwyr i gydymffurfio â’n Rheoliadau Llygredd Amaethyddol a fydd yn helpu i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd a’u llednentydd.
“Byddwn yn annog ymgeiswyr i ystyried buddsoddiadau posibl cyn agor ffenestri cais a lle bo’n briodol, ymgysylltu ag awdurdodau cynllunio lleol.
“Dylid cyflwyno ceisiadau cynllunio a SDCau cyn gynted â phosibl; Nid yw gwneud y gwaith hwn cyn cyfnod ymgeisio yn effeithio ar eich cymhwysedd i wneud cais.”
Dywed ei fod yn “ymwybodol iawn” o’r effaith ar deuluoedd ffermio yn y tymor byr, a bod angen wynebu’r mater drwy “gyfathrebu a dull pragmatig”.
“Mae iechyd meddwl y rhai sy’n ymwneud â’r diwydiant amaethyddol yn peri pryder mawr i mi ac rwy’n annog unrhyw un sy’n dioddef o straen neu broblemau iechyd meddwl eraill i ofyn am help,” meddai.
“Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn chwarae ei rhan; os bydd ffermwyr yn cael unrhyw anawsterau o ran bodloni gofynion eu contractau, o ganlyniad i’r cyfnod hir hwn o dywydd gwlyb, dylent gysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru cyn gynted â phosibl i drafod eu hopsiynau neu i ofyn am randdirymiad.
“Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol.
“Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol.
“Rhaid i ni weithredu heddiw i addasu a lliniaru hyn – gan gymryd camau i adeiladu gwytnwch i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.”
Heriau economaidd yn parhau
Er bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r newyddion, dydy’r cymorth ddim yn ddigon pellgyrhaeddol, yn ôl James Evans, llefarydd materion gwledig y blaid.
“Rwy’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi ysgafnhau ei dull gweithredu ac wedi cydnabod yr heriau gwirioneddol y mae ffermwyr yn eu hwynebu gyda’r glaw cyson,” meddai.
“Mae’n gam i’r cyfeiriad cywir eu bod wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwelliannau ar y fferm i helpu i fodloni gofynion Rheoli Maetholion gan fod ffermwyr yn rhanddeiliad allweddol wrth gadw ein hafonydd yn lân a gydag incwm ffermydd yn gostwng, mae angen cefnogaeth y llywodraeth arnynt i’w galluogi i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru).
“Fodd bynnag, gyda Llywodraeth Cymru ond yn darparu hyd at 50% o’r cyllid mae’n dal i fod yn her enfawr i fusnesau fferm ddod o hyd i’r arian ychwanegol.
“Mae’n newid i’w groesawu y mae’n ymddangos bod Ysgrifennydd newydd y Cabinet yn gwrando ar y diwydiant.
“Rwy’n gobeithio y bydd nawr yn cydweithio ar draws y Senedd i ailedrych ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
“Mae angen cynllun arnom sy’n cefnogi ein ffermwyr, nid eu rhwystro.
“Dim ond drwy gydweithio â ffermwyr y gall Llywodraeth Cymru gyflawni ei nodau hirdymor ar gyfer newid hinsawdd ac adfer natur.”