Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi diolch i Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, am gryfhau’r cyfeillgarwch rhwng y ddwy blaid, ar ôl iddo fe gyhoeddi ei ymddiswyddiad.
Daeth cyhoeddiad Humza Yousaf heddiw (dydd Llun, Ebrill 29), ar ôl i gytundeb ei Lywodraeth SNP â’r Blaid Werdd gael ei derfynu.
Ers iddo wneud y cyhoeddiad, mae Rhun ap Iorwerth wedi dymuno’r gorau iddo at y dyfodol.
“Mae’r achos dros annibyniaeth i’r Alban yn parhau mor gryf ag erioed, ac edrychaf ymlaen at symud ei achos ymlaen gydag arweinydd newydd yr SNP, yn yr un modd ag y mae Plaid Cymru yn parhau i wneud yr achos yng Nghymru,” meddai arweinydd Plaid Cymru.
‘Gwrthod cyfnewid egwyddorion am rym’
Roedd Cytundeb Bute yn gytundeb rhwng yr SNP a’r Blaid Werdd i rannu grym, ond fe ddaeth i ben ddydd Iau (Ebrill 25) ar ôl i’r Blaid Werdd gyhuddo’r SNP o gefnu ar faterion amgylcheddol, gan gynnwys targedau’n ymwneud â’r hinsawdd erbyn 2030.
Heb gefnogaeth y Gwyrddion, mae’n debygol na fyddai gan Humza Yousaf ddigon o gefnogaeth i barhau i arwain llywodraeth leiafrifol.
Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd ei fod yn credu mai dod â Chytundeb Bute i ben oedd y penderfyniad cywir i’w blaid ac i’r wlad, gan ychwanegu nad yw’n barod i anghofio am ei egwyddorion er mwyn aros mewn grym.
Roedd disgwyl iddo fe wynebu dwy bleidlais hyder yr wythnos hon, sef un yn ei erbyn e fel arweinydd a’r llall yn erbyn ei blaid fel llywodraeth.
“Yn anffodus, wrth ddod â Chytundeb Bute i ben yn y ffordd y gwnes i, fe wnes i danystyried lefel y boen y byddwn i’n ei hachosi,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Llun, Ebrill 29).
“Er mwyn i lywodraeth leiafrifol lywodraethu’n effeithiol ac effeithlon, mae angen ymddiriedaeth wrth weithio gyda’r blaid arall.
“Er y byddai hi wedi bod yn gwbl bosib i fi ddod drwy’r bleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos hon, dw i ddim yn barod i gyfnewid fy ngwerthoedd a’m hegwyddorion, neu wneud cytundebau â phwy bynnag, er mwyn cadw grym.
“Felly, ar ôl adlewyrchu dros y penwythnos ar yr hyn sy’n iawn i’r blaid, y llywodraeth a’r wlad, dw i wedi dod i’r casgliad nad ydy hi ond yn bosib adfer y berthynas rhwng y pleidiau gyda rhywun arall wrth y llyw.”
Galwodd hefyd am ddod o hyd i’w olynydd cyn gynted â phosib, gan ddweud y bydd yn aros yn y rôl hyd nes y bydd arweinydd newydd i’r SNP yn cael eu penodi.
“Fedra i ddim dweud wrthoch chi faint o fraint ydy bod yn brif weinidog ar y wlad dw i’n ei charu, y wlad lle dw i’n magu fy mhlant, a’r unig wlad y bydda i’n ei galw’n ‘adref’,” meddai Humza Yousaf, gan ddweud na fyddai wedi breuddwydio’n blentyn y byddai’n cael arwain ei wlad.
“Doedd gan bobol sy’n edrych fel fi ddim dylanwad gwleidyddol.”
‘Mor ddiolchgar’
Roedd y Prif Weinidog yn amlwg dan deimlad wrth ddiolch i’w wraig, ei blant a’i deulu ehangach am eu cefnogaeth.
“Gall gwleidyddiaeth fod yn fusnes garw; mae’n effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol; mae eich teulu’n dioddef gyda chi,” meddai.
“Mae fy nyled yn fawr i’m ngwraig hyfryd, fy mhlant perffaith a fy nheulu ehangach am fy ngoddef dros y blynyddoedd. Mae gen i ofn y byddwch chi’n gweld mwy ohonof i nawr.
“Chi ydy fy mhopeth.
“Er fy mod i’n drist bod fy amser yn Brif Weinidog yn dod i ben, dw i mor ddiolchgar, mor lwcus fy mod i wedi cael cyfle sy’n cael ei roi i gyn lleied o bobol, i arwain fy ngwlad – a phwy all ofyn am wlad well i’w harwain na’r Alban?”