Mae cynlluniau i adeiladu canolfan gymunedol a chaffi ar safle ysgol Gymraeg leol wedi’u cyflwyno i Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot.
Gallai’r safle arfaethedig yn Ysgol Cwm Brombil ym Margam weld canolfan gymunedol 184 metr sgwâr yn cael ei chodi fel estyniad i safle presennol yr ysgol, a hynny ar ffurf adeilad pwrpasol newydd ar dir yr ysgol.
Yn ôl y cynlluniau, pe bai’r cais yn cael ei dderbyn, byddai’n darparu “gofodau dysgu i’w haddasu” fel bod lle i ddosbarthiadau cyfan yn yr ysgol, ynghyd â chanolfan gymunedol fyddai’n ymgysylltu ag ystod o grwpiau a gwasanaethau lleol.
Byddai’r safle ar Heol Bertha hefyd yn cynnwys caffi, banc bwyd, toiledau, cyntedd, a storfeydd.
Yn ogystal, byddai decin gwyliau yng nghefn y cyfleuster, gyda gatiau a ffensys yn cael eu hadleoli.
Mae’r adroddiad yn nodi y byddai’r datblygiad wedi’i ddylunio i gyd-fynd â phrif adeiladau Ysgol Cwm Brombil o ran eu dyluniad a’u lliw.
Gwella addysg a chysylltiadau cymunedol
“Nod rhaglen gwella hwb cymunedol strategol Castell-nedd Port Talbot yw gwella addysg a chysylltiadau â’r gymuned drwy ysgolion cyfrediol,” medd yr adroddiad.
“Nod y prosiect hwn yw darparu cyfleuster ar gyfer defnyddwyr Cwm Brombil.
“Y bwriad yw y bydd yr hwb yn cael ei ddefnyddio gan blant a staff yr ysgol a’r gymuned ehangach.
“Bydd y gofod cyfarfod canolog ar amserlen at ddefnydd yr ysgol ac at ddefnydd gwasanaethau cymorth eraill (h.y. gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol, cymorth rhieni) er mwyn darparu cefnogaeth i rieni a disgyblion.
“Bydd y banc bwyd a’r caffi ar agor i’r cyhoedd ar adegau penodol (yn ystod yr wythnos ac yn ystod gweithgareddau chwaraeon ar gaeau chwarae’r ysgol tu allan i oriau ysgol – oriau defnydd y gymuned ar hyn o bryd yw 9yb-8yh).
“Bydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr a staff sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd.”
Mae’r cynlluniau ar gyfer y datblygiad bellach wedi’u cyflwyno i’r Cyngor lleol, ac mae disgwyl i’r adran gynllunio ddod i benderfyniad dros y misoedd i ddod.