Bydd yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone gerbron llys eto ddydd Gwener (Ionawr 26), ar ôl iddo fe wrthod talu rhybudd parcio uniaith Saesneg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai cyfieithu’r rhybudd, ac osgoi tri achos llys dros gyfnod o dair blynedd a hanner, wedi costio rhwng £60 a £70.

Derbyniodd e’r rhybudd gwreiddiol ym mis Medi 2020 am beidio talu i barcio mewn maes parcio yn Llangrannog.

Er i’r achos llys gael ei daflu allan ddwywaith yn barod, mae cwmni parcio One Parking Solution yn apelio unwaith eto.

Methodd y cwmni â bod yn bresennol ar gyfer yr achos cyntaf, a chafodd yr ail achos ei daflu o’r llys gan ei fod wedi’i gyflwyno’n hwyr ac o dan yr amodau anghywir.

“Cwbl barod” i dalu pe bai’n derbyn copi Cymraeg

“Pe bai One Parking Solution yn darparu copi Cymraeg o’r rhybudd i mi fel mae llawer o gwmnïau parcio eraill eisoes yn gwneud, bydden i’n gwbl barod i’w dalu,” meddai Toni Schiavone.

“Yn lle hynny, maen nhw’n mynnu mynd â fi i’r llys dro ar ôl tro i drio fy ngorfodi i dalu’r rhybudd yn Saesneg.

“Yn ôl y cwmni, gan fy mod yn deall Saesneg, does dim angen iddyn nhw barchu fy hawl i ddefnyddio fy iaith fy hun yn fy ngwlad fy hun.

“Mae’n gwbl sarhaus.”

Agwedd “gwbl hurt”

“Mae agwedd y cwmni yn gwbl hurt,” meddai Cai Phillips, is-gadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas.

“Rydym ni wedi cael gwybod gan sawl cwmni cyfieithu y byddai cost cyfieithu’r rhybudd gwreiddiol i’r Gymraeg rhwng tua £60 a £70.

“Ond, yn lle gwneud hyn a pharchu hawl Mr Schiavone, mae One Parking Solution wedi mynnu mynd i’r llys am y trydydd tro gan dalu’r holl ffioedd cyfreithiol costus yn y broses.

“Mae’r anghydfod yma’n adlewyrchu methiannau ehangach Mesur Iaith 2011 i warantu hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat.

“Yn ddiweddar, fe gollodd cwsmeriaid HSBC y gallu i ffonio eu banc trwy gyfrwng yr iaith.

“Ddydd Sadwrn roedd rhai yn picedu Swyddfa Bost Aberystwyth oherwydd agwedd wrth-Gymraeg a diffyg gwasanaeth Cymraeg yno.

“Ers i ni ddechrau ein hymgyrch i beidio talu rhybuddion parcio uniaith Saesneg, mae unigolion ar hyd a lled Cymru wedi gwrthod talu ac mewn sefyllfaoedd tebyg i Toni.

“Mae’n allweddol ein bod yn parhau i bwyso i gryfhau Mesur Iaith 2011 ei hun yn ogystal a’i weithrediad.”