Gallai trethdalwyr yng Ngheredigion weld eu biliau’n codi gan 14% – neu £216 ychwanegol y flwyddyn i bob eiddo ar gyfartaledd – wrth i’r Cyngor Sir wynebu eu “cyllideb fwyaf difrifol eto”.

£192.47m yw gofyniad cyllideb Ceredigion ar gyfer 2024-25, sy’n gynnydd o 6.9% o gymharu â 2023-24.

Dywed adroddiad ar gyfer aelodau yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar Ionawr 23, gafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael, fod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn agored mai eu cyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 yw’r “fwyaf difrifol a phoenus ers datganoli”, gyda Cheredigion ond yn derbyn cynnydd o 2.6% yn eu cyllid gan Lywodraeth Cymru – sy’n eu rhoi nhw’n rhif 14 allan o 22 ymhlith awdurdodau lleol Cymru, y cynnydd lleiaf y pen o ran y boblogaeth ledled Cymru.

“Hon, felly, yw cyllideb fwyaf difrifol Cyngor Sir Ceredigion eto, ac yn waeth na’r hyn gafodd ei ragfynegi’n flaenorol,” meddai’r adroddiad.

“Mae’r Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Dros Dro, ynghyd ag amryw o grantiau penodol unigol yn cael eu torri, yn ogystal â phwysau costau sylweddol dros ben ar wasanaethau nad ydyn nhw’n dangos unrhyw arwydd o leddfu, yn golygu nad yw bellach yn bosib parhau i warchod gwasanaethau.

“Mae yna ddewisiadau cyllidebol anodd dros ben i’w gwneud erbyn hyn, fel rhan o bwyso a mesur sut a ble i leihau cost gwasanaethau’r Cyngor, ochr yn ochr ag ystyried y lefel briodol o gyllid i’w godi drwy dreth y cyngor.”

‘Y gyllideb fwyaf anodd rydyn ni wedi’i hwynebu’

Clywodd aelodau mai 68% yn erbyn 32% fyddai’r rhaniad mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru a threthdalwyr Ceredigion, sy’n llawer is na’r rhaniad o 80% yn erbyn 20% dros ddegawd yn ôl.

“Mae Llywodraeth Cymru eu hunain wedi cydnabod mai eu cyllideb ddrafft yw’r un fwyaf difrifol a phoenus ers datganoli,” meddai’r Cynghorydd Gareth Davies.

“Dyma’r gyllideb fwyaf anodd rydyn ni wedi’i hwynebu; rydyn ni wedi wynebu heriau yn y gorffennol, ond dim byd o gymharu â hyn, a dydy’r rhagfynegiad ar gyfer y flwyddyn nesaf ddim yn edrych yn arbennig o ffafriol chwaith.”

Yn yr adroddiad llwm, clywodd aelodau mai £18.1m digynsail yw’r pwysau costau diweddaraf mae’r Cyngor yn ei wynebu, gyda bwlch cyllidebol o £14.6m mae “angen felly i ni ei ddarganfod drwy gyfuniad o ostyngiadau cyllidebol ac ystyriaethau o ran cynyddu treth y cyngor”.

Mae’r pwysau sydd wedi’u hadnabod yn cynnwys costau cyflog byw gwirioneddol o £0.9m ar gyfer 2024-25, pwysau cyllidebol mewn perthynas â gofal cymdeithasol gwerth £6.2m, pwysau costau disgwyliedig o £4.8m o ran y Cyflog Byw Cenedlaethol, cynnydd sylweddol sydd wedi’i gynnig gan Awdurdod Tân y Canolbarth a’r Gorllewin ar gyfer ardoll tân, sy’n gyfystyr â chynnydd o fwy nag 1% yn nhreth y cyngor heb sôn am unrhyw beth arall, a gostyngiad yng nghyllid grant Llywodraeth Cymru.

£1,908 yw treth y cyngor Band D ar hyn o bryd yng Ngheredigion ar gyfer 2023-24 – ar gyfer pob rhan ohoni – sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig o £1,879, gyda’r elfen Cyngor Sir ar hyn o bryd yn £1,553.60.

Gyda’r cynnydd diweddar yn y premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag, yr awgrym yw fod 75% o’r arian ychwanegol sy’n cael ei godi’n cael ei ddefnyddio i ostwng cynnydd uwch yn nhreth y cyngor.

Yn gyffredinol, clywodd aelodau fod pob 1% o newid yn nhreth y cyngor bellach yn cyfateb i fuddiant net o ryw £450,000 ac yn ychwanegu cost fisol o £1.29 at lefel treth y cyngor Band D.

“Ar ôl ystyried £8.2m o ostyngiadau cyllidebol arfaethedig (gan gynnwys yr £1.6m o bremiwm treth y cyngor) yn y gyllideb ddrafft, mae bwlch o £4.1m o hyd, hyd yn oed ar ôl gwneud lle i’r cynnydd o 5% (£2.3m) yn nhreth y cyngor.

“Mae gwaith pellach ar y gweill, ond bydd angen ariannu’r bwlch terfynol drwy dreth y cyngor.

“Rydym yn derbyn y byddai’r bwlch presennol o £4.1m yn y gyllideb sydd dros ben, o gael ei ariannu’n llwyr drwy dreth y cyngor ar ben y 5%, yn gynnydd llawer mwy nag y byddai unrhyw aelod yn dymuno’i fod yn destun ardoll drwy dreth y cyngor.

“Ar hyn o bryd, mae’r ffigurau’n dangos cynnydd posib o 13.9% yn nhreth y cyngor ar gyfer 2024-25.”

Byddai hynny’n gweithio allan fel cynnydd blynyddol o £144, £168, £192, £216 a £264 ar gyfer Bandiau A-E yn eu tro.

Craffu

Rhoddodd aelodau eu sêl bendith i gyfres hir o argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys:

  • defnyddio 75% o’r premiwm treth gyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag i gefnogi’r gyllideb gyffredinol
  • nodi’r sefyllfaoedd ariannol a threth y cyngor yn yr adroddiad
  • nodi y dylai unrhyw opsiynau newydd neu amgen ar gyfer cyllideb ddrafft 2024-25 gael eu hystyried yn ystod y cyfarfodydd Craffu ar y Gyllideb

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei gyfeirio at bwyllgorau trosolwg a chraffu’r Cyngor, gydag adborth yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfod Cabinet mis Chwefror ar gyfer argymhellion terfynol ar ofynion cyllideb 2024-25 a lefel y cynnydd yn nhreth y cyngor ar gyfer 2024-25 yn y Cyngor llawn ar Chwefror 29.