Mae rhoi tri bwrdd iechyd dan fwy o graffu gan Lywodraeth Cymru a chreu lefel newydd o ymyrraeth yn dangos bod y llywodraeth “wedi rhedeg allan o syniadau”, yn ôl gwleidyddion.
Cyhoeddodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 23) fod byrddau iechyd Aneurin Bevan, Bae Abertawe a Hywel Dda yn wynebu lefelau uwch o graffu.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd “dan bwysau sylweddol”, meddai, gan ychwanegu mai ei gwaith hi yw sicrhau ei fod yn darparu’r “gofal gorau posib”.
Dywed Eluned Morgan hefyd y bydd lefel newydd o ymyrraeth ar gyfer byrddau iechyd – “meysydd sy’n peri pryder”.
Mae’r newidiadau’n cynnwys:
- codi Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ymyrraeth wedi’i dargedu, gan fod “heriau” ariannol a chynllunio yno’n effeithio ar berfformiad y bwrdd iechyd.
- Cynyddu lefel Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i ymyrraeth wedi’i dargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau.
- Ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, mae pryder penodol am adran frys Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, ac mae’r lefel yno’n codi i fonitro uwch ar gyfer perfformiad a chanlyniadau’n ymwneud â llwybrau brys.
‘Rhedeg allan o syniadau’
Wrth ymateb, dywed Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, fod dod o hyd i £14m i wella diogelwch newydd yn yr ysbyty newydd yng Nghwmbrân yn “syndod”.
“Mae hi’n ysbyty newydd, ond eto roedd diogelwch cleifion mewn peryg,” meddai.
“Pam wnaethon nhw roi’r golau gwyrdd iddi? Pam bod brys yn ôl yn 2020?
“Wrth gwrs, roedd etholiad yn fuan wedyn, nid fy mod i’n awgrymu bod cysylltiad, wrth gwrs.
“Felly’n hytrach na mynd i’r afael â phroblemau cronig yn ein byrddau iechyd a datrys yr achosion, mae’r Llywodraeth Lafur yn penderfynu cyflwyno lefel newydd o ymyrraeth.
“Dyma lywodraeth sydd wedi rhedeg allan o syniadau’n llwyr.”
‘Cyflwr sobor’
Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “amlwg bod Llywodraeth Cymru yn trio dal i fyny” â’r sefyllfa.
“Mae’r trefniadau uwchraddio sydd wedi cael eu cyhoeddi’n rhai sy’n codi aeliau â dweud y lleiaf, ac yn dangos bod Gwasanaeth Iechyd Gwlad mewn cyflwr sobor iawn,” meddai.
“Mae pob un o fyrddau iechyd Cymru wedi cael eu huwchraddio i ryw raddau yn sgil eu cyllidebau ac rydyn ni nawr yn gweld statws tri bwrdd iechyd yn codi eto – a bellach mae Hywel Dda i gyd ar y lefel ail uchaf.
“Mae gwasanaethau mamolaeth Bae Abertawe dan lefel uwch eto o graffu, ar ôl i’r lefel gynyddu’n barod fis diwethaf yn sgil amseroedd aros hir a phryderon diogelwch – mae’n amlwg bod y Llywodraeth Lafur yn trio dal fyny.
“Trafferthion ariannol sy’n golygu bod lefel Aneurin Bevan wedi codi, a dydy toriadau’r Llywodraeth Lafur i’r gwasanaeth iechyd heb dros y flwyddyn ddiwethaf heb helpu ac maen nhw nawr yn effeithio ar berfformiad a chleifion yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.”
‘Pwysau sylweddol’
Yn y Senedd, dywedodd Eluned Morgan nad oes amheuaeth fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, fel gweddill gwledydd Prydain, “dan bwysau sylweddol”.
“Mae’r galw am ofal iechyd wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawd diwethaf, yn ogystal ag ers diwedd cyfnod argyfwng y pandemig,” meddai.
“Bob mis, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dod i gysylltiad â dwy filiwn o bobol yng Nghymru.
“Mae hynny’n lefel anhygoel o weithgarwch ar gyfer gwlad â 3.1m o bobol.”
Aeth yn ei blaen i esbonio’r newidiadau, cyn dweud na chafodd y penderfyniadau eu gwneud heb ystyriaeth ddwys.
“Dyma’r ffordd orau i gefnogi sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a byddan nhw’n gwella ansawdd y gwasanaeth a’r gofal mae pobol yn ei dderbyn yng Nghymru gan y gwasanaeth iechyd yn eu hardal leol, ac, yn y pendraw, gwella canlyniadau clinigol,” meddai.