Mae gofyn i arolygwyr cynllunio Llywodraeth Cymru “alw i mewn” y cais cynllunio i adeiladu 89 o gabanau gwyliau ar safle rhwng y Drenewydd a Chaersws.

Mae hyn er mwyn i Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, ystyried cymryd cyfrifoldeb am y broses o wneud penderfyniad.

Fis Rhagfyr, daeth i’r amlwg fod Graham Grigg o GF Grigg wedi gwneud cais i Gyngor Sir Powys i godi 89 o gabanau gwyliau, ardal hamdden anffurfiol, pwll pysgota a dau bwll arall, ystafell chwarae a chyfleusterau hamdden ychwanegol yn Chwarel Penstrowed.

Chwarel Penstrowed yw’r enw ar safle ei gwmni adeiladu, sydd ger bryn Maesmawr yn ymyl priffordd A489.

Daeth y gwaith yn y chwarel i ben yn 1984.

Gwrthwynebiad

Daeth gwrthwynebiad i’r cynnig gan gangen Sir Drefaldwyn CPRW – yr ymgyrch er mwyn gwarchod Cymru wledig – oedd hefyd eisiau i’r cais gael ei “alw i mewn” a’i benderfynu gan bwyllgor cynllunio’r Cyngor.

Cafodd y gwrthwynebiad ei feirniadu gan Jonathan Lambe, asiant cynllunio Graham Grigg.

Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfarwyddyd atal i Gyngor Sir Powys ar gyfer y cais.

“Mae gofyn i weinidogion Llywodraeth Cymru alw i mewn y cais i gael gwneud penderfyniad drostyn nhw eu hunain,” meddai Hywel Butts, pennaeth gwaith achos cynllunio Llywodraeth Cymru.

“Dw i’n rhoi cyfarwyddyd i Gyngor Sir Powys, i beidio â rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad heb awdurdod gweinidogion Cymru ymlaen llaw.

“Dw i’n rhoi’r cyfarwyddyd hwn er mwyn rhoi ystyriaeth bellach ynghylch a ddylid cyfeirio’r cais at weinidogion Cymru i wneud penderfyniad.

“Dydy’r cyfarwyddyd ddim ond yn atal eich awdurdod rhag rhoi caniatâd cynllunio; dydy e ddim yn eu hatal nhw rhag parhau i brosesu neu ymgynghori ar y cais.”

Eglura Hywel Butts y gallai’r Cyngor wrthod y cais “pe baen nhw’n dymuno”.

Dywedodd Graham Grigg ei fod e’n “ymwybodol” o’r cais galw i mewn gan Lywodraeth Cymru.

Y cynnig

“Mae’r cynnig hwn yn disodli’r gweithgareddau diwydiannol ac adeiladu dwys gydag 89 o gabanau gwyliau pum seren arbennig sy’n targedu pobol dros 50 oed,” meddai Jonathan Lambe mewn dogfennau’n cefnogi’r cais.

Mae’n honni y gallai’r cynnig ddod â hyd at £2.28m i’r economi leol pe bai’r llety’n cael ei ddefnyddio 30 wythnos y flwyddyn.

Ychwanega y byddai’r cynllun “yn cadw swyddi ac yn creu cyfleoedd ychwanegol am swyddi”.