Mae cynllun wedi’i gyhoeddi fel bod ysgolion a cholegau yng Nghymru’n deall eu cyfrifoldeb i atal aflonyddu rhywiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd ar atal aflonyddu rhywiol ymysg disgyblion heddiw (dydd Mercher, Ionawr 24), ac mae’n dweud sut y dylai ysgolion ddarparu hyfforddiant i staff allu mynd i’r afael â’r mater yn hyderus.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gydag NSPCC Cymru a phobol ifanc i ddeall sut i atal ymddygiad niweidiol.
Yn ddiweddar, mae adolygiadau gan Estyn, ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, a thystiolaeth gan ddisgyblion drwy’r platfform Everyone’s Invited wedi datgelu i ba raddau mae pobol ifanc yn profi aflonyddu rhywiol ac ymddygiad niweidiol gan eu cyfoedion yn yr ysgol.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod angen i ddysgwyr allu lleisio eu pryderon am eu profiadau, a theimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu deall.
“Mae ysgolion ledled Cymru yn gwneud gwaith rhagorol wrth greu amgylchedd dysgu diogel i’w dysgwyr,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.
“Ond, yn union fel yn y gymdeithas ehangach, rydyn ni’n gwybod y gall aflonyddu fod yn broblem. Rhaid i bawb wybod bod unrhyw fath o aflonyddu rhywiol yn gwbl annerbyniol ac na ddylid ei oddef.
“Rwy’n falch ein bod yn gweithio gyda’r NSPCC a phobl ifanc eu hunain i roi sylw i’r mater hwn.
“Mae’n hanfodol amddiffyn dysgwyr, gwrando ar eu pryderon ac ymateb iddyn nhw er mwyn dod ag aflonyddu i ben, cefnogi eu lles a hybu eu presenoldeb.”
‘Rhan o fywyd bob dydd’
Ychwanega Cecile Gwilym, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus NSPCC Cymru, fod rhaid rhoi blaenoriaeth i farn pobol ifanc yn y gwaith o fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ymysg cyfoedion.
“Rydyn ni’n gwybod fod aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid yn rhan o’u bywydau bob dydd, ar-lein ac all-lein, yn anffodus,” meddai.
“Roeddem yn falch iawn o gael gweithio gyda phobol ifanc i gasglu eu barn am ffyrdd o fynd i’r afael â’r mater hwn.”
Toriadau posib
Yn y cyfamser, mae sôn bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried arbed arian drwy wario llai ar weithredu yn erbyn trais yn erbyn menywod a merched, meddai Jess Phillips, yr Aelod Seneddol Llafur.
Yn ôl Jess Phillips, byddai’r arian fyddai’n cael ei arbed yn cael ei ddefnyddio i ariannu toriadau treth.
Wrth ymateb, dywed y cyflwynydd Jess Davies, sy’n ymgyrchydd dros hawliau menywod, fod gweld y newyddion yn “tynnu’r gwynt o hwyliau rhywun”.
Mewn rhaglen ar S4C neithiwr (Ionawr 23), Jess Davies: Byw Mewn Ofn?, roedd y gyflwynwraig, sydd wedi cael profiadau o aflonyddu rhywiol ac wedi dioddef ymosodiadau rhyw ei hun, yn siarad â merched eraill sydd wedi cael eu heffeithio ac yn darganfod a oes digon yn cael ei wneud i gadw merched yn ddiogel.
“Mae gweld y newyddion hyn wedi’r ffilm neithiwr yn archwilio a ydy’r Llywodraeth yn gwneud digon i gadw menywod yn ddiogelwch rhag aflonyddu rhywiol jyst yn… tynnu’r gwynt o hwyliau rhywun,” medd Jess Davies ar X, Twitter gynt.