Etholiad cyffredinol a Llywodraeth Lafur yn San Steffan sydd eu hangen, nid ymddiswyddiad arall, yn ôl Jeremy Miles.

Daw sylwadau Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, sy’n un o ddau ymgeisydd i ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, wrth iddo fe ymateb i’r pwysau cynyddol ar Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i gamu o’r neilltu.

Mae dau weinidog Ceidwadol blaenllaw bellach yn galw am ymddiswyddiad, yn dilyn sylwadau Syr Simon Clarke yn y Telegraph.

Rhybuddia fod y Blaid Geidwadol yn wynebu “cyflafan” oni bai eu bod nhw’n ethol arweinydd newydd cyn hynny.

Mae’n beirniadu polisi’r llywodraeth ynghylch anfon ceiswyr lloches i Rwanda, gan alw am ddewrder wrth fynd i’r afael â’r sefyllfa, ac am ddiwygio’r llywodraeth hefyd.

Mae’n un o unarddeg o Geidwadwyr bleidleisiodd yn erbyn y polisi dadleuol ynghylch Rwanda.

Mae pobologrwydd Rishi Sunak ymhlith pleidleiswyr yn gostwng yn raddol yn sgil rhai o bolisïau ei blaid.

Dydy Downing Street ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn, ond mae nifer o wleidyddion wedi beirniadu Syr Simon Clarke, gan gynnwys Kevin Hollinrake a Priti Patel.

“Yr hyn sydd ei angen arnom yw etholiad cyffredinol a Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig, nid Prif Weinidog Torïaidd dros dro arall,” meddai Jeremy Miles.

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.

“O wir i chi, gadewch i ni jyst gael etholiad cyffredinol,” meddai.