Ni ddylai fod angen am gynnydd o fwy na 5% yn nhreth y cyngor, yn ôl Aelod Ceidwadol o’r Senedd.

Daw sylwadau Sam Rowlands wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno cynnig gerbron y Senedd yn galw am refferendwm lleol os yw cyngor sir eisiau cynyddu’r lefel dreth uwchlaw 5%.

“Ddylai bo ddim angen mynd dros 5% os yw Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cynghorau yn gywir,” meddai llefarydd llywodraeth leol y blaid wrth golwg360.

“Mae disgwyl y bydd cynghorau lleol yn gorfod cynyddu treth y cyngor yn sylweddol dros y flwyddyn ariannol nesaf.

“Mae Conwy yn edrych ar gynnydd o 16%, er enghraifft.

“Mae hynny tua £300 y flwyddyn ychwanegol i rai pobol, sydd yn ergyd fawr.”

Ail ystyried y fformiwla

Yn ôl Sam Rowlands, mae angen ailystyried sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud o ran faint o arian gaiff ei glustnodi ar gyfer pob cyngor.

“Yn ein cynnig, rydyn ni’n galw arnyn nhw [Llywodraeth Cymru] i adolygu’r fformiwla ar gyfer sut maen nhw’n dyrannu arian i gynghorau sir,” meddai.

“Dylai eu bod nhw hefyd yn gweithio gyda chynghorau i weld sut allan nhw wneud mwy o ddefnydd o’u harian wrth gefn yn hytrach na chynyddu’r dreth.”

Ychwanega fod yr arian sydd wrth gefn gan gynghorau sir yn amrywio ledled Cymru, gyda thua £270m wrth gefn yn Rhondda Cynon Taf ac oddeutu £40m yn Sir Fynwy.

“Mae gan rai cynghorau gronfeydd wrth gefn isel, ac mae gan rai gronfeydd sylweddol wrth gefn,” meddai.

“Beth rydym yn ei ddweud yw y dylai cynghorau ystyried sut y gallen nhw ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn hynny i gadw’r dreth gyngor mor isel ag sy’n bosibl.

“Dydyn ni ddim yn dweud y dylen nhw beidio bod yn bwyllog gyda nhw, ond fe ddylen nhw ystyried yr effaith mae codiadau treth cyngor yn ei chael ar drigolion.”

Defnyddio arian wrth gefn?

Yn aml, caiff arian wrth gefn ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau lleol, megis gwaith amddiffyn ac atgyweirio.

Gall hyn gynnwys adeiladu ysgolion newydd neu drwsio adeiladau gaiff eu niweidio, er enghraifft mewn stormydd.

Felly, byddai defnyddio’r arian hwnnw yn golygu llai o arian i’w wario ar bethau eraill, sydd weithiau’n angenrheidiol ac yn annisgwyl, o fewn y gymuned.

“Mae’n gywir i ddweud, unwaith rydych chi’n defnyddio’ch arian wrth gefn dydy o ddim ar gael i’w ddefnyddio eto,” meddai Sam Rowlands.

“Ond y pwynt ydy bod gan rai cynghorau lawer iawn o arian wrth gefn.

“Dw i’n meddwl ei bod yn ddadl eithaf anodd fod rhai cynghorau yn ceisio cynyddu treth y cyngor o efallai 6%, ond yn dal gafael ar gannoedd o filiynau [o bunnoedd] o arian wrth gefn.

“Dw i’n meddwl y dylai cynghorau sydd â chronfeydd mawr ystyried sut allan nhw ddefnyddio’r arian hwnnw i leihau’r cynnydd yn nhreth y cyngor.”

Dim digon gan y Deyrnas Unedig

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae angen mwy o arian gan San Steffan er mwyn gallu ariannu cynghorau sir yn well.

Maen nhw hefyd yn dweud nad ydyn nhw wedi gosod cap ar dreth y cyngor oherwydd eu bod nhw eisiau parchu awdurdod cynghorau lleol o ran gwneud penderfyniadau.

“Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi darparu setliad ariannu digonol i Gymru ac mae ein cyllideb y flwyddyn nesaf werth £1.3bn yn llai nag ar yr adeg y cafodd ei gosod, o ganlyniad i chwyddiant,” meddai llefarydd.

“Er ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ail-lunio ein cyllideb yn sylweddol, rydym yn diogelu’r setliad llywodraeth leol craidd trwy ddarparu’r cynnydd o 3.1% i awdurdodau lleol a addawyd y llynedd, gyda chyfanswm cyfraniad cyllid craidd blynyddol o £5.7bn.

“Rydym yn cydnabod bod y setliad yn brin o’r cyllid sydd ei angen i fodloni’r holl bwysau chwyddiant sy’n wynebu gwasanaethau a bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd wrth iddyn nhw osod eu cyllidebau.

“Mae’n bwysig eu bod yn ymgysylltu’n ystyrlon â’u cymunedau lleol wrth iddyn nhw ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.”

Bydd y ddadl lawn yn digwydd yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 24).