Mae angen gweithio i wella cyswllt band eang mewn ardaloedd gwledig er mwyn gwella cyfleoedd swyddi yn yr ardal, yn ôl Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion.
Daeth ei sylwadau yn ystod trafodaeth y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, Ionawr 24).
“O ran seilwaith, mae rhai pethau y byddem wrth ein bodd i lywodraethau ymgysylltu â nhw ynghylch pethau fel darpariaeth band eang, fel y gallai pobol weithio mewn ardaloedd mwy gwledig,” meddai.
Daw hyn wrth i’r pwyllgor drafod yr heriau mae Ceredigion yn eu hwynebu o ran ei phoblogaeth.
Ar hyn o bryd, mae gan y sir boblogaeth sy’n heneiddio, wrth i bobol ifanc symud i ffwrdd, a phobol sydd wedi ymddeol brynu tai yno.
Allbwn siaradwyr Cymraeg
Mae’r newid mewn poblogaeth wedi cael effaith ar ganran y siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion.
“Mae’r ffaith bod gennym ni fewnfudo allbwn net o bobl ifanc o Geredigion, yn ei gwneud hi’n debygol ein bod ni’n cyflenwi siaradwyr Cymraeg i rannau eraill o Gymru,” meddai Barry Rees.
“Yn enwedig i ddinasoedd de Cymru ble mae atyniad enfawr.
“Ar ben hynny, mae gennym ni lefelau uchel o bobol sy’n ymddeol i Geredigion.
“Nhw yw’r bobol sy’n gallu fforddio ein cartrefi ond, o ganlyniad, mae gennych chi eiddo eithaf mawr gyda deiliadaeth isel o un neu ddau o bobol yn byw ynddyn nhw, ac anaml maen nhw’n siaradwyr Cymraeg.”
Fodd bynnag, dywed Barry Rees ei fod yn gobeithio y bydd premiwm treth y cyngor yng Ngheredigion yn gallu cael ei ddefnyddio i gynorthwyo prynwyr newydd.
“Rydym wedi gosod premiwm treth gyngor cymedrol o 20% ar ail gartrefi,” meddai.
“Fodd bynnag, mae hynny wedi ein galluogi i greu cronfa o tua £1.8m i ariannu cynllun tai cymunedol.
“Gobeithio y gallwn ddefnyddio hyn i greu cynllun rhannu ecwiti ar gyfer prynwyr newydd.”
Chwarter tai Ceinewydd yn ail gartrefi
Dywed Barry Rees fod angen sicrhau mwy o dai fforddiadwy mewn ardaloedd arfordirol hefyd.
Ychwanega fod angen gwneud mwy i dargedu ail gartrefi yn yr ardal.
Yn ôl Barry Rees, mae tua 1,700 o ail gartrefi yn y sir, gyda 27% o dai Ceinewydd yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi.
Mae’n poeni nad yw’r rhain yn dai hygyrch ar gyfer pobol ifanc Ceredigion yn y lle cyntaf, gan eu bod yn adeiladau drud, ac felly mae angen gwneud mwy i wella fforddiadwyedd tai yng Ngheinewydd ac mewn ardaloedd tebyg, meddai.
“O ran ein hasesiad o lesiant lleol roedd yn amlwg iawn mai prif bryderon ein pobol ifanc oedd argaeledd tai fforddiadwy ac argaeledd swyddi.
“Mae ein data’n awgrymu bod hynny’n cael ei gadarnhau gan y ffaith bod gennym leihad yn y boblogaeth, yn enwedig yn ein poblogaeth iau ac yn y boblogaeth oedran gweithio.”
Ychwanega ei fod yn credu ei bod yn wir fod ail gartrefi’n lladd cymunedau mewn rhai rhannau o Gymru.
“Gallaf enwi ychydig o bentrefi arfordirol ble mae hynny wedi bod yn wir,” meddai.
“Yr hyn dydyn ni ddim eisiau gweld yn digwydd yw bod hynny’n digwydd mewn mannau eraill, ond mae angen inni roi’r gallu i awdurdodau lleol dargedu’r trefi a’r pentrefi penodol ble mae hynny’n broblem benodol yn hytrach na’r math rhanbarthol rydyn ni’n ymdrin gydag e nawr.”