Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn honni bod buddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn safle gwaith dur Port Talbot wedi arbed 5,000 o swyddi yn y pen draw.

Dywed ei fod e wedi ymrwymo i gydweithio â’r sector dur er mwyn sicrhau “dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy”.

Daw hyn yn dilyn y newyddion bod y ddwy ffwrnais chwyth ar y safle yn cael eu disodli gan ffwrneisi arc trydan, yn y gobaith o wneud y broses yn fwy ecogyfeillgar.

Bydd 3,000 o swyddi’n cael eu colli oherwydd y newidiadau.

Fodd bynnag, mae Rishi Sunak yn credu bod hyn yn well na’r ail opsiwn, sef cau’r safle’n gyfangwbl.

“Yr hyn gafodd ei gynnig yn ne Cymru oedd colli 8,000 o swyddi uniongyrchol, miloedd yn fwy ar draws y gadwyn gyflenwi, a chau’r ffatri’n llwyr,” meddai.

“Oherwydd buddsoddiad a chefnogaeth y Llywodraeth a phartneriaeth, rydym wedi diogelu 5,000 o swyddi uniongyrchol, miloedd yn fwy yn y gadwyn gyflenwi, ac wedi sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gwaith dur hwnnw fel bod ganddo ddyfodol mwy disglair.

“Yn amlwg, mae hyn yn anodd ond mae’n gwbl wallgof peidio â chydnabod y pecyn cymorth; mae’n un o’r pecynnau cymorth mwyaf mae unrhyw lywodraeth wedi’i ddarparu i unrhyw gwmni, ac yn y broses wedi diogelu miloedd o swyddi.”

‘Cwrs dinistriol’

Fel rhan o’r pecyn, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i fuddsoddi £500m yn safle dur Port Talbot, tra bydd Tata yn buddsoddi £750m.

Mae Tata hefyd wedi dweud y bydd dros £130m yn cael ei wario ar fesurau megis telerau diswyddo, ailhyfforddi sgiliau a chymorth i chwilio am waith.

Er gwaetha’r cymorth ariannol, disgrifiodd Sarah Champion, yr Aelod Seneddol Llafur, y cam fel un dinistriol.

“Rwy’n cynrychioli cymuned ddur falch yn Rotherham, sy’n sefyll gyda’r gweithwyr dur ym Mhort Talbot ar yr adeg hynod bryderus hon,” meddai.

“Dydy fy etholwyr ddim eisiau gweld arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i ddiswyddo gweithwyr ym Mhrydain, a’n gallu i wneud dur sylfaenol yn cael ei ddirywio a’n diogelwch cenedlaethol yn cael ei beryglu.

“Felly, a fydd y Prif Weinidog yn newid ei drywydd dinistriol, gan ddechrau drwy edrych ar y cynllun aml-undeb credadwy i ddiogelu dyfodol hirdymor ein diwydiant dur?”​

Roedd y cynllun aml-undeb yn galw am gadw un o’r ffwrneisi chwyth ar agor am gyfnod, er mwyn arbed swyddi yn y tymor byr a rhoi cyfle i’r gweithwyr ailhyfforddi a hwyluso’r broses o ddod o hyd i swydd newydd yn y dyfodol.

Fodd bynnag, dywed Tata nad yw’r cynllun hwn “yn ymarferol nac yn fforddiadwy”, ac y byddai’r buddsoddiad yn helpu i drosglwyddo i gynhyrchu dur mwy cynaliadwy a gwyrddach.