Mae’r ffraeo ymysg y Ceidwadwyr yn “dangos ei bod hi’n amser am etholiad cyffredinol”, yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Ynys Môn yn San Steffan.
Yr “unig ymateb derbyniol” gan Rishi Sunak i’r sefyllfa fyddai “galw etholiad cyffredinol rŵan”, medd Llinos Medi.
Dywedodd Syr Simon Clarke, y cyn-Weinidog Cabinet, mewn erthygl ar gyfer y Telegraph fod Rishi Sunak yn “arwain y Ceidwadwyr i etholiad lle byddwn yn cael cyflafan”.
“Nid yw’n deall yr hyn sydd ei angen ar Brydain.
“Ac nid yw’n gwrando ar yr hyn mae pobol Prydain ei eisiau.”
Mae nifer o aelodau seneddol Ceidwadol wedi beirniadu sylwadau Syr Simon Clarke
Mae nifer o aelodau seneddol Ceidwadol wedi beirniadu ei sylwadau, gan gynnwys y cyn-Ysgrifennydd Cartref Priti Patel, ddywedodd fod “cymryd rhan mewn hunanfoddhad rhwydd ac ymrannol ond yn gwasanaethu ein gwrthwynebwyr”.
‘Swp sâl o weld y ffraeo’
“Mae pobol Ynys Môn yn swp sâl o weld y Torïaid yn ffraeo ymysg ei gilydd,” meddai Llinos Medi.
“Yr unig ymateb derbyniol gan Rishi Sunak i’r ffrae diweddaraf yma ddylai fod i alw etholiad cyffredinol rwan.
“Ers 14 mlynedd, mae’r Torïaid wedi bod yn blaenoriaethu eu plaid eu hunain dros anghenion y bobol.
“Dylai ein haelodau seneddol fod yn gweithio ar ran y bobol, nid dim ond yn chwarae eu gemau gwleidyddol eu hunain.
“Rwy’n sefyll i wasanaethu pobol yr ynys o ddifri.
“Tra bod y Torïaid yn brysur yn brwydro yn erbyn ei gilydd, dw i’n canolbwyntio ar gynrychioli pobol Ynys Môn.
“Gadewch i ni roi helynt mewnol y Torïaid y tu ôl i ni, a sicrhau newid cadarnhaol i’n hynys.”