Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwael a’r parcio sydd ar gael yn effeithio ar faint o bobol sy’n ymweld â chanol trefi, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus fod diffyg systemau trafnidiaeth syml ac integredig yn atal pobol rhag ymweld â chanol trefi, a bod yn well ganddyn nhw fynd i leoliadau tu allan.
Dywed y pwyllgor fod y dystiolaeth hefyd yn dangos bod y gyfundrefn ardrethi annomestig yn atal ailddatblygu eiddo gwag ac yn rhoi “pwysau ychwanegol” ar fusnesau bach sy’n cael trafferth gyda chostau ynni cynyddol.
‘Angen gweledigaeth newydd’
Mae eu hadroddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ionawr 25), yn cynnwys wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys galw arnyn nhw i gyflymu’r gwaith o adfywio trefi a chefnogi rhanddeiliaid lleol i wneud penderfyniadau mawr sy’n addas i’w hardal.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru sbarduno a chyflawni gweledigaeth newydd ar gyfer ein strydoedd mawr,” meddai Mark Isherwood, cadeirydd y pwyllgor.
“Mae hynny’n golygu darparu system drafnidiaeth sy’n syml ac yn hawdd ei defnyddio; system drethu fwy synhwyrol ar gyfer busnesau; cymhellion ariannol i annog busnesau newydd; a dull newydd o fynd i’r afael ag eiddo gwag sy’n difetha canol ein trefi.
“Fel gwledydd eraill, mae trefi Cymru wedi newid yn syfrdanol yn sgil y pandemig a’r cynnydd mewn siopa ar-lein.
“Mae’n amlwg nad yw rôl draddodiadol y stryd fawr fel canolbwynt manwerthu bellach yn gynaliadwy ac yn ystod ein hymchwiliad clywsom am sawl prosiect arloesol, ar lefel leol, sy’n rhoi pwrpas newydd i ganol trefi.
“Ond dim ond os yw’r holl randdeiliaid wedi’u grymuso i wneud penderfyniadau mawr sy’n briodol i’w hardal y bydd y datblygiadau arloesol hyn yn llwyddiannus, gyda sicrwydd yn genedlaethol y bydd adnoddau ac arbenigedd digonol ar bob lefel.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu’r atebion cenedlaethol i’r problemau lleol a chefnogi ein cymunedau i gyflawni’r adfywio sydd ei angen mor fawr ar ein trefi.”
‘Sobor clywed am yr heriau’
Bu’r pwyllgor yn ymweld â’r Wyddgrug, Wrecsam, Treforys a Chaerfyrddin i weld beth sy’n digwydd yno er mwyn adfywio’r stryd fawr.
Yn yr Wyddgrug, buon nhw’n gweld safle hanesyddol Bryn y Beili, sydd wedi cael ei ailddatblygu yn ased cymunedol, tra eu bod nhw wedi clywed am y cynllunio ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol Cymru yn Wrecsam.
Yng Nghaerfyrddin, buon nhw’n dysgu sut y bydd hen siop Debenhams yn dod yn hwb hamdden newydd fydd yn dod â gwasanaethau iechyd, llesiant, dysgu a diwylliannol ynghyd.
Capel Tabernacl Treforys a Chanolfan y Galon Gysegredig, dau leoliad sy’n cael eu defnyddio fel adnoddau cymunedol ar gyfer grwpiau lleol, aeth â’u sylw yn Nhreforys.
“Roedd yn hynod braf ymweld â’r Wyddgrug, Wrecsam, Treforys a Chaerfyrddin,” meddai Mark Isherwood.
“Roedd yn bleser clywed am y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud, ond roedd yn sobor clywed am yr heriau roedd pob lleoliad hefyd yn eu hwynebu.
“Mae ein hadroddiad heddiw yn amlygu’r rhwystrau hyn.”