Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd wedi’i gael yn ddieuog o dorri rheolau’r Senedd wrth ddisgrifio’r terfyn cyflymder 20m.y.a. fel polisi “blanced”.

Roedd Andrew RT Davies yn destun ymchwiliad gan Douglas Bain, y Comisiynydd Safonau, yn sgil trydariadau am y gostyngiad cyflymder cyffredinol ym mis Medi ar rai ffyrdd.

Fe wnaeth y sawl fu’n cwyno nodi bod darlun Andrew RT Davies o’r newid fel terfyn cyflymder “blanced” yn torri rheol dau y Cod Ymddygiad, sy’n nodi bod rhaid i aelodau weithredu’n onest.

Ond mewn adroddiad unarddeg tudalen gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Mercher, Ionawr 24), fe wnaeth pwyllgor safonau’r Senedd gefnogi casgliad y Comisiynydd na chafodd y rheolau eu torri.

Dydy Andrew RT Davies ddim wedi cael ei enwi yn yr adroddiad, ond mae ffynonellau wedi cadarnhau mai fe sydd dan sylw.

‘Anghywir’

Roedd Douglas Bain yn fodlon bod y disgrifiad o “flanced” yn “amwys ac anghywir”, ond fe ddaeth i’r casgliad nad yw’n gyfystyr â bod yn anonest.

“Mae anwiredd, fel anonestrwydd, yn gofyn bod rhyw elfen o dwyll neu warthusrwydd,” meddai.

“Tra bod pob datganiad anwir yn amwys ac anghywir, dydy pob datganiad amwys ac anghywir ddim yn anonest.”

Cyfeiriodd y Comisiynydd at dystiolaeth, roedd e’n cymryd ei bod wedi’i derbyn gan yr achwynydd, fod Andrew RT Davies wedi egluro bod eithriadau i’r terfyn cyflymder cyffredinol newydd.

“Dw i ddim yn fodlon fod elfen o dwyll neu warthusrwydd.”

Dywedodd yr adroddiad fod Andrew RT Davies yn derbyn nad yw cyfeirio at 20m.y.a. “blanced” yr un fath â’i alw’n derfyn cyffredinol, gan gyfeirio at ddiffiniadau’r geiriadur.

“Diffiniad y Collins Dictionary, er enghraifft, yw ‘ymwneud â neu’n cynnwys grŵp eang neu amrywiaeth o bobol, cyflyrau neu sefyllfaoedd’,” meddai’r Comisiynydd.

“Yn arwyddocaol, dydy e ddim yn dweud ei fod yn cyfeirio at – neu’n berthnasol i – bron y cyfan o grŵp mawr.

“Does yna’r un diffiniad arall gafodd ei ddarparu’n awgrymu bod ‘blanced’ yn golygu unrhyw beth ond cwmpasu cyffredinol.”

Daeth Douglas Bain i’r casgliad fod rhaid goddef defnydd anghywir o’r ymadrodd yn unol â Chymal 10 (rhyddid mynegiant) Confensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol.

Fe wnaeth y pwyllgor safonau, sy’n cynnwys aelodau Llafur, Plaid Cymru a Cheidwadol, gytuno â’r cysyniad fod gonestrwydd yn fwy na datganiadau anghywir neu ddiofal.

Daeth Aelodau’r Senedd i’r casgliad nad oedd y trothwy wedi’i gyrraedd gan sylwadau Andrew RT Davies heb fod tystiolaeth glir o’r bwriad i gamarwain.

Mae’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd wedi gwrthod gwneud sylw.