Mae dyn 40 oed wedi’i garcharu am 14 wythnos am wrineiddio ar ddyn oedrannus oedd wedi bod yn cael triniaeth am ganser y prostad.

Mae Leigh Brookfield o Lanelli yn gweithio fel DJ, ac fe blediodd yn euog i’r ymosodiad ddigwyddodd mewn clwb cymdeithasol ar Ddydd San Steffan.

Aeth gerbron ynadon yn y dref heddiw (dydd Iau, Ionawr 25), ar ôl cael gwybod yn ystod gwrandawiad blaenorol ei fod e’n wynebu cyfnod dan glo.

Fe wnaeth e ffilmio’r digwyddiad ar ei ffôn a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi ennyn ymateb chwyrn, gan gynnwys nifer o leoliadau’n dweud eu bod nhw wedi ei wahardd e am oes rhag gweithio yno.

Daeth i’r amlwg nad oedd y dyn oedrannus yn ymwybodol o’r ymosodiad hyd nes ei fod e wedi gweld y fideo.