Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi codi pryderon ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi ar safle Nidec Control Techniques yn y Drenewydd.
Ar hyn o bryd, mae’r safle’n cyflogi tua 350 aelod o staff, sy’n ei wneud yn gyflogwr mwya’r canolbarth.
Ond mae’r cwmni, sy’n dylunio a gweithgynhyrchu technoleg rheoli moduron trydan, wedi cyhoeddi eu bwriad i leihau eu capasiti gweithredol, gan roi 100 o swyddi yn y fantol.
Dywed Jane Dodds ei bod hi’n “bryderus iawn” ar ôl clywed y newyddion.
“Ar hyn o bryd, mae’r safle’n cyflogi tua 350 aelod o staff, sy’n golygu mai dyma’r cyflogwr preifat mwyaf yng nghanolbarth Cymru,” meddai.
“Rwy’n ofni y gallai unrhyw dorri swyddi posibl fod yn ddinistriol i’r economi leol.
“Mae fy nghydymdeimlad diffuant yn mynd i’r holl staff a’u teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan y newyddion yma; mae colli eich swydd ar unrhyw adeg yn gallu bod yn straen, heb sôn am fod yng nghanol argyfwng costau byw.”
Cymorth Llywodraeth Cymru
Mae Jane Dodds yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn a diogelu’r safle yn y dyfodol agos, a chefnogi’r gweithwyr sy’n colli eu swyddi.
Yn ôl y Trefnydd Lesley Griffiths, mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn ceisio sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’r bobol sydd wedi’u heffeithio gan y newyddion.
“Mae [Vaughan Gething] wedi sicrhau bod ei swyddogion wedi parhau i weithio gyda Nidec i wneud yn siŵr y bydd y staff sy’n cael eu heffeithio yn cael cefnogaeth,” meddai.
“Mae’r gweinidog wedi gofyn i’w swyddogion barhau i gyfarfod â’r cwmni i gynnig cymorth i weithwyr drwy ReAct, Busnes Cymru a chymorth arall gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael i’r gweithwyr sydd wedi’u heffeithio.
“Felly, fel y dywedaf, mae Gweinidog yr Economi yn sicrhau bod cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gael.”
Cydymdeimlo
Dywed Glyn Preston, darpar ymgeisydd seneddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer Maldwyn a Glyndŵr, ei fod yn cydymdeimlo â’r staff a’u teuluoedd.
“Mae’r newyddion bod Nidec Control Techniques ar fin torri tua 100 o swyddi ar eu safle yn y Drenewydd yn peri pryder mawr,” meddai.
“Safle Nidec yw un o gyflogwyr mwyaf yr ardal a gallai unrhyw benderfyniad i gwtogi ar weithrediadau fod yn ddinistriol i’r economi leol.
“Mae fy meddyliau’n mynd allan i’r gweithwyr a’u teuluoedd a fydd nawr yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gynnal eu hunain.”