Mae tafarn fu’n ffefryn gan gefnogwyr rygbi ar fin ailagor, flynyddoedd ar ôl iddi gau.

Caeodd tafarn y Westgate ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen yn 2016, gyda’r cyn-berchnogion Brains yn nodi bod nifer y cwsmeriaid yn gostwng wedi’u harwain at eu penderfyniad.

Fodd bynnag, mae’n ymddangos y bydd yn ailagor fel bar eto ar ôl i is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Caerdydd gymeradwyo cais am drwydded safle mewn cyfarfod ddydd Mercher (Ionawr 24).

Cafodd yr eiddo rhestredig Gradd II, sy’n cael ei adnabod gan lawer am ei ffasâd nodedig, ei adeiladu gan Syr Percy Thomas, sy’n cael y clod am rai o adeiladau a strwythurau mwyaf adnabyddus y de, gan gynnwys Y Deml Heddwch ym Mharc Cathays a Neuadd y Dref Abertawe.

Cefnogwyr

Safai’r dafarn ger Parc Bute a Chastell Caerdydd, ac mae’n boblogaidd ymhlith cefnogwyr cyn ac ar ôl gemau yn Stadiwm Principality, Parc yr Arfau, Gerddi Sophia a Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ar ôl ei chau, cafodd ei phrynu a’i thrawsnewid yn gartref, ond yn 2023 cafodd yr eiddo ei brynu gan Adrian Hibbert.

Mewn datganiad ar Facebook ar Dachwedd 11 y llynedd, dywedodd y perchnogion newydd eu bod nhw’n gobeithio agor yr adeilad yn gynnar yn 2024 a chynnal amrywiaeth o adloniant, gan gynnwys cerddoriaeth fyw, bingo, nosweithiau cwis, carioci a chwaraeon byw.

Mynegodd y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (SRS) bryderon am y cais mewn perthynas ag aflonyddwch posibl gan sŵn, oherwydd pa mor agos yw’r adeilad at addoldy a strydoedd preswyl.

“Mae yna lawer o ddiffyg manylion ynglŷn â sut mae’n mynd i reoli’r sŵn gan gwsmeriaid ac o [adloniant] ar y safle,” meddai Samantha Page, swyddog SRS, yn y cyfarfod ddydd Mercher (Ionawr 24).

Nododd hi bryderon hefyd am gynlluniau Adrian Hibbert i agor y teras ar y to.

Yn ei gais, dywedodd mai ei fwriad yw agor y teras fel bod cwsmeriaid yn gallu “yfed alcohol ac ymlacio yn y tywydd da”.

Fodd bynnag, dywedodd Samantha Page nad yw SRS “yn meddwl ei bod yn strwythurol ddiogel i gael unrhyw un ar y to”.

Amodau

Cafodd y cais am drwydded safle ei ganiatáu ar nifer o amodau gafodd eu gosod gan y tîm rheoli llygredd yn SRS, gan gynnwys atal gwerthu alcohol am hanner nos o ddydd Iau i ddydd Sul, ac am 1yb o ddydd Gwener i ddydd Sadwrn.

Mae amod wedi’i ychwanegu hefyd fydd yn atal cwsmeriaid rhag defnyddio’r teras ar gyfer unrhyw weithgaredd heblaw ysmygu.

Mewn llythyr oedd ynghlwm ag adroddiad y cais, ysgrifennodd Adrian Hibbert, wrth ymateb i bryderon SRS, y byddai lefelau sŵn yn cael eu rheoli y tu allan i’r adeilad gan staff ar y drws cyn y byddai’n cynyddu i fod yn sŵn annerbyniol i gymdogion.

Dywedodd y bydd gan y safle arwyddion ar allanfeydd hefyd i atgoffa cwsmeriaid i adael y safle yn dawel.