Mae Liz Saville Roberts wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd gwasanaeth post symudol yn dychwelyd i Nefyn ym Mhen Llŷn.
Bu Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionydd yn galw ers tro am wella darpariaeth yng nghefn gwlad, ar ôl i’r gwasanaeth post yn Nefyn gael ei ddileu fis Medi 2023.
Y llynedd, mi wnaeth hi alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i adfer y gwasanaeth, gan ddweud bod sgandal Horizon, lle cafodd is-bostfeistri eu cyhuddo ar gam o dwyll ariannol ar ôl i system gyfrifiadurol fethu, yn dal i gael effaith ar gymunedau yn ei hetholaeth.
Bydd y gwasanaeth symudol yn Nefyn yn dechrau ar Chwefror 8, gan ymweld â’r pentref bob dydd Sadwrn rhwng 11.25yb a 12.10yp.
‘Brifo cymunedau’
“Mae effeithiau sgandal Horizon ac arferion busnes Swyddfa’r Post yn dal i frifo ein cymunedau,” meddai Liz Saville Roberts.
“Dw i’n croesawu adfer y gwasanaeth post symudol i Nefyn drwy law Postfeistr Betws-y-Coed, wedi i mi godi hyn yn uniongyrchol gyda chyn-Weinidog Swyddfa’r Post a Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig.
“Mae Nefyn yn gwasanaethu poblogaeth wledig sydd ar wasgar, ac mae diffyg gwasanaethau post wedi bod yn herio i bobol leol.
“Dw i wedi pwyso ar yr hen lywodraeth a’r llywodraeth newydd yn y Deyrnas Unedig ers tro i wneud popeth fedran nhw i annog Swyddfa’r Post i drin y mater â’r brys mae’n ei fynnu, ac i archwilio’r holl opsiynau i adfer gwasanaethau post i gymuned Llŷn.
“Mae Swyddfa’r Post yn darparu gwasanaethau hanfodol i nifer o bobol, ac mae angen sicrwydd arnom y bydd y rhain yn cael eu cynnal.
“Llanast Swyddfa’r Post ydy sgandal Horizon, ond mae’n cael effaith niweidiol ac eang ar gymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
“Mae’n rhaid iddyn nhw adfer ffydd yn y gwasanaeth, a’r cam cyntaf tuag at hynny ydy sicrhau y gall pobol gael mynediad at wasanaethau lle bynnag maen nhw’n byw.”