Mae’r Senedd wedi clywed na fydd un o borthladdoedd prysura’r Deyrnas Unedig yn ailagor yn llawn tan o leiaf fis Mawrth, ar ôl cael ei ddifrodi yn ystod Storm Darragh, gan adael y gogledd i “fynd yn angof”.
Cadarnhaodd Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, y bydd un o’r angorfeydd fferi yng Nghaergybi’n ailagor o Ionawr 16, gyda phedwar gwasanaeth bob dydd i Ddulyn ac yn ôl.
Fe fu’r porthladd yng Nghaergybi, sydd dan berchnogaeth Stena Line, ar gau ers Rhagfyr 7, ac mewn datganiad union fis yn ddiweddarach, wnaeth Ken Skates ddim cyhoeddi amserlen ar gyfer ei ailagor yn llawn.
Cododd y Ceidwadwr Sam Kurtz bryderon am oedi cyn ailagor disgwyliedig wedi’r storm, sydd wedi achosi cryn ansicrwydd.
“Tra ei fod yn beth positif clywed y bydd un angorfa fferi’n ailagor ar gyfer pedwar gwasanaeth dyddiol, mae’r ffaith nad oes disgwyl gweithredu’n llawn tan fis Mawrth yn gadael busnesau a chymunedau i fynd yn angof,” meddai.
‘Gwendidau’
Dywedodd llefarydd y Torïaid ar yr economi, oedd yn arfer gweithio ar y daith i Rosslare ac yn ôl, fod ei gau yn tanlinellu pwysigrwydd y coridor deheuol o sir Benfro sy’n cael ei “esgeuluso”.
Cododd Rhun ap Iorwerth, fu’n cynrychioli Ynys Môn ers 2013, bryderon am ddyddiad ailagor “uchelgeisiol iawn” ym mis Mawrth ar gyfer yr angorfa wynebodd effeithiau gwaetha’r difrod.
“Rydan ni’n gwybod y bu gwendidau dros gyfnod hir iawn o amser sydd wedi arwain at danseilio’r morglawdd, er enghraifft,” meddai, gan alw am ddysgu gwersi.
“Mae angen i ni wybod y bydd y cwestiynau rŵan yn cael eu gofyn gan Lywodraeth Cymru am y gwaith cynnal a chadw gafodd ei wneud ar yr angorfeydd hyn, fel y gallwn ni sicrhau nad ydan ni’n wynebu’r un problemau mewn stormydd fydd yn sicr yn digwydd yn amlach yn y dyfodol.”
Wnaeth arweinydd Plaid Cymru ddim galw am wladoli, ond fe awgrymodd archwilio model newydd o berchnogaeth, gyda’r gweinidog yn ymateb nad yw’r porthladd ar werth ar hyn o bryd.
‘Blaenoriaeth fawr’
Roedd Carolyn Thomas, aelod o feinciau Llafur sy’n cynrychioli’r gogledd, yn gofidio ac wedi synnu o glywed pa mor fregus yw porthladd Caergybi.
“Pa wahaniaeth fydd buddsoddi yn y morglawdd wir yn ei wneud…?” gofynnodd.
“Dw i ddim eisiau swnio’n ddiflas, ond dw i eisiau sicrhau ei fod yn parhau i fod yn flaenoriaeth fawr.
“Mae’n bwysig iawn, iawn i ogledd Cymru.”
Fe wnaeth Gareth Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, feirniadu’r Prif Weinidog am recordio fideo am gau’r porthladd o borthladd Abergwaun.
“Roedd hi’n destun siom nad oedd hi’n gallu gadael gorllewin Cymru i recordio’i fideo o borthladd Caergybi…” meddai.
“Am neges mae hynny’n ei hanfon allan i bobol ar Ynys Môn ac, yn wir, drwy’r gogledd hefyd.”
Eglurodd Ken Skates, sydd hefyd yn gyfrifol am y gogledd, fod y Prif Weinidog wedi recordio’r fideo tra ei bod hi yn Abergwaun i geisio cytundeb ar gyfer capasiti o’r porthladd.
‘Hercwleaidd’
Yn ei ddatganiad i’r Senedd, fe wnaeth Ken Skates ganmol ymateb “Hercwleaidd” oedd wedi atal argyfwng, gyda’r angen i 100,000 o drigolion Gwyddelig ddychwelyd ar gyfer y Nadolig.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth y bydd tasglu yn datblygu strategaeth newydd ar gyfer dyfodol Caergybi, ac yn ystyried gwytnwch cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol ar draws Môr Iwerddon.
Dywedodd Ken Skates y byddai busnesau’n gallu cyflwyno tystiolaeth “o fewn dyddiau” drwy borth y Cyngor am unrhyw golledion ariannol, gyda Busnes Cymru wrth law.
“Mae’r digwyddiad wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw Caergybi i economïau a chymunedau yng ngogledd Cymru, i’r Deyrnas Unedig yn ehangach, ac i’n partneriaid yn Iwerddon,” meddai wrth y Senedd.
“Fel sy’n aml yn wir o ran rhwydweithiau trafnidiaeth, mae yna dueddiad i’w gwerth gwirioneddol fynd o’n meddyliau o ddydd i ddydd tan bod rhywbeth yn mynd o’i le.”