Mae Aelodau’r Senedd yn rhybuddio bod cleifion ym Mhowys yn teimlo fel dinasyddion eilradd o ganlyniad i amseroedd aros hirach, ac na fydd toriadau gan y bwrdd iechyd sy’n wynebu trafferthion ariannol ond yn gwaethygu’r broblem.
Cododd James Evans, gafodd ei benodi’n llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig fis diwethaf, bryderon am gynlluniau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gadw’r ddysgl yn wastad.
Dywedodd James Evans, sy’n cynrychioli Aberhonddu a Maesyfed, fod y cynigion yn cynnwys gofyn i ddarparwyr Seisnig gadw cleifion Powys i aros yn hirach am driniaeth er mwyn arbed arian.
“Mae cleifion Powys eisoes yn teimlo fel dinasyddion eilradd o ganlyniad i amseroedd aros hirach am driniaeth o gymharu ag ardaloedd eraill ledled y wlad, a fydd cynigion sy’n ymestyn amseroedd aros yn fwriadol ddim ond yn gwaethygu’r problemau hynny,” meddai wrth y Senedd.
“Maen nhw eisoes yn dweud wrthym fod angen gofal amserol ar bobol, a’r hiraf maen nhw’n aros mae hynny’n golygu y mwyaf o weithiau maen nhw’n mynd i mewn i wasanaethau eraill – yn ôl at feddygon teulu, yn ôl at ffisiotherapyddion, yn ôl at adrannau brys, a ffonio am ambiwlans gan eu bod nhw mewn poen.”
‘Gwarthus’
Dywedodd Russell George, cyd-Geidwadwr sy’n cynrychioli Sir Drefaldwyn, fod 60% o’i etholwyr yn derbyn triniaeth gan ysbytai dros y ffin.
“Mae Bwrdd Iechyd Powys yn cynnig gofyn i ddarparwyr yn Lloegr i beidio gweld cleifion yn rhy gyflym gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio talu,” meddai.
“Alla i ddim credu fy mod i’n dweud hyn.
“Mae’n sefyllfa warthus i fod ynddi y gall fod cleifion o Gymru’n eistedd yn yr un ysbyty, yn cael eu gweld gan yr un bobol broffesiynol ym maes iechyd, ond nad ydyn nhw’n cael eu gweld mor gyflym â chleifion Seisnig.”
Wrth holi Jeremy Miles, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fe wnaeth e annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar drothwy cyfarfod y bwrdd iechyd ddydd Gwener (Ionawr 10).
Yn yr un modd, lleisiodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bryderon dwys am effaith bwlch o £9.4m, gyda chynllun i rewi recriwtio a chyflogi staff asiantaeth ar y bwrdd.
‘Dim negodi’
Dywedodd Jeremy Miles wrth y Senedd fod gweinidogion wedi darparu arian ychwanegol sylweddol i’r bwrdd iechyd yn ystod yr wythnosau cyn y Nadolig, ond wnaeth e ddim cadarnhau ffigwr.
“Mae angen i bob bwrdd iechyd allu mantoli eu cyllidebau,” meddai.
“Dydy hyn ddim yn elfen mae modd negodi arni…
“Yr hyn dw i’n gobeithio’i weld yw bod y bwrdd iechyd yn gallu gwneud penderfyniadau sy’n galluogi’r gyllideb i gael ei mantoli, a hefyd sicrhau bod pobol yn derbyn y gofal yn y modd amserol sydd ei angen arnyn nhw.”
Wrth roi diweddariad ehangach ar bwysau gaeafol ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 7), rhybuddiodd Jeremy Miles fod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol â symptomau’r ffliw mewn ysbytai drwy gydol mis Rhagfyr.
“Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod mwy na 900 o bobol â’r ffliw, Covid-19 ac RSV mewn gwlâu yn ein hysbytai,” meddai.
“Mae hyn 20% yn fwy na’r un cyfnod y llynedd.”
‘Camreolaeth’
Rhybuddiodd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru ei bod hi’n anochel fod pwysau gaeafol yn cynyddu bob blwyddyn, tra bod gallu’r Gwasanaeth Iechyd i ymdopi’n lleihau.
Rhybuddiodd llefarydd iechyd y Blaid am gwymp yn nifer y bobol dros 65 oed a gweithwyr iechyd sy’n derbyn y brechlyn ffliw o gymharu â’r llynedd.
Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor feirniadu “tanfuddsoddiad” yng nghapasiti ystad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a “chamreolaeth barhaus o adnoddau prin” gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Lesley Griffiths, aelod o feinciau cefn Llafur sy’n cynrychioli Wrecsam, mai dim ond 27% o staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi derbyn brechlyn ffliw, gan alw am wneud rhagor i annog mwy bobol i’w dderbyn.
Awgrymodd y cyn-Ysgrifennydd Iechyd y dylid ehangu’r grwpiau sy’n cael cynnig y brechlyn, er enghraifft drwy wneud brechlyn ar gael yn rhad ac am ddim i bobol dros 55 oed.