Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cael eu rhoi mewn mesurau uwch erbyn hyn.
Dangosodd adroddiad gan Archwilio Cymru yr wythnos ddiwethaf fod saith prif fwrdd iechyd Cymru wedi cofnodi diffyg o £151.9m rhyngddyn nhw yn ystod y flwyddyn ariannol 2022-23.
Heddiw, mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cadarnhau bod pob un o’r byrddau dan lefelau uwch o graffu ariannol am y tro cyntaf.
Mae pedair lefel o drefniadau monitro – trefniadau arferol, monitro uwch, ymyrraeth wedi’i thargedu, a mesurau arbennig.
Mae newidiadau i statws Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Bydd byrddau iechyd Bae Abertawe, Aneurin Bevan a Phowys yn cael eu huwchgyfeirio i statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
Yn y cyfamser, mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cael eu hisgyfeirio o ymyrraeth wedi’i thargedu i statws monitro uwch yn sgil gwelliannau, medd Eluned Morgan.
Statws y byrddau iechyd:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid a monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd dal i fod.
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – uwchgyfeirio i statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid ac i aros o dan statws monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad.
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – aros dan statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – uwchgyfeirio i statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – uwchgyfeirio i statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – aros o dan fesurau arbennig.
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – aros o dan ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer pryderon ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad ac amseroedd aros hir ac i aros o dan statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid. Isgyfeirio’r gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ac ymddiriedaeth a hyder, o ymyrraeth wedi’i thargedu i statws monitro uwch.
Difrifol
Wrth ymateb i’r ffaith fod pob un o’r byrddau dan lefelau uwch o graffu ariannol, dywed llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru fod y Gweinidog Iechyd wedi “colli gafael” ar y “sefyllfa gyfan”.
“Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach mewn rhyw fath o fesurau uwch. Mae hyn yn ddifrifol,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Mae’r ffaith bod y Llywodraeth yn cyhoeddi hwn fel Datganiad Ysgrifenedig heb unrhyw gyfle i’r Senedd graffu arno ar unwaith yn gam sinigaidd gan Weinidog sydd i bob golwg wedi colli gafael ar y sefyllfa.
“Ni ddylai fod wedi cymryd hyd yma i’r Gweinidog weithredu a sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa yr oedd byrddau iechyd ynddi.
“Rhaid i’r Gweinidog Iechyd fynd i’r afael ar fyrder â goblygiadau trefniadau ymyrraeth cynyddol a darparu darlun clir o les ariannol Byrddau Iechyd a chynllun ystyrlon sy’n rhoi hyder i gleifion, yn enwedig gyda phwysau gaeaf yn agosáu.”
‘Arwydd trist’
Mae’r dynodiadau newydd yn “arwydd trist o gyflwr” y Gwasanaeth Iechyd dan Lafur, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
“Er ei fod yn beth cadarnhaol bod y Gweinidog Iechyd Llafur yn cymryd rywfaint o gamau i gydnabod stad ddigalon Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ychydig o ffydd sydd gen i o ystyried y diffyg gwelliannau rydyn ni wedi’u gweld gyda byrddau iechyd sy’n cael eu monitro’n barod,” meddai llefarydd.
“Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gynnig datrysiadau arloesol o hybiau meddygol i ganolfannau diagnosis ac annog Llafur i fabwysiadau cynllun gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Rishi Sunak, ond yn hytrach rydyn ni dal i weld bod bron i 30,000 o bobol yn aros ers dros ddwy flynedd am driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
“Peidiwch ag anghofio bod Cymru wedi derbyn y setliad ariannol mwyaf erioed gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, ac am bob £1 sy’n cael ei gwario ar iechyd yn Lloegr, mae Cymru’n derbyn £1.20, ac eto dydy Llafur ond yn gwario £1.05 ar y gwasanaeth iechyd.
“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau bod y £1.20 llawn yn cael ei wario ar Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.”
Dywed Eluned Morgan fod “yr amgylchedd y mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yn gweithredu ynddo yn parhau i fod yn anodd”.
“Ceir diffygion ariannol cynyddol, pwysau gweithredol, rhestrau aros hir, yn ogystal â sefyllfa ariannol heriol dros ben; sefyllfa nad yw’n unigryw i Gymru,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cyhoeddiad hwn yn rhan o’u hadolygiadau rheolaidd o statws uwchgyfeirio byrddau iechyd, sy’n digwydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
“Bydd y Gweinidog yn ateb cwestiwn ar hyn yn y Senedd heddiw a bydd hefyd yn ateb cwestiynau yn y Senedd yr wythnos nesaf.”