Mae mam i ddau o blant o Gaernarfon fu’n athrawes mewn ysgol arbennig am 17 o flynyddoedd yn dweud bod creadigrwydd wedi ei helpu i oresgyn iselder ar ôl rhoi genedigaeth.

Mae gan Awen Davies-Jones ferch saith oed, Nel, a mab tair oed, Twm.

Cyn cael plant, roedd hi’n gweithio fel athrawes anghenion arbennig yn Ysgol Pendalar.

Roedd ei iselder a gorbryder mor ddrwg ar ôl rhoi genedigaeth i Twm yn 2019, fel ei bod hi’n dweud wrth golwg360 y byddai hi wedi rhoi ei mab i ffwrdd i “ddieithryn”.

Ond bellach, mae hi wedi’i llorio gan gariad tuag ato, meddai.

Wrth deimlo cywilydd yn sgil ei chyflwr, gwnaeth meddyginiaethau ei helpu yn ogystal â chefnogaeth pobol.

Iselder ar ôl geni

Ar ôl genedigaeth anodd y datblygodd Awen Davies-Jones iselder.

Dywed ei bod hi’n “crio lot” a’r meddyg yn dweud bod ganddi colic bob tro.

“Ond yn y diwedd anoddefiad llaeth oedd o,” meddai.

“Ac yna’r cyfnod clo, felly’n methu rhoi Twm i neb i fi gal brêc.

“Ar ôl bob dim, yn amlwg cefais i iselder ar ôl geni wedyn, a mynd ar dabledi iselder.

“Roedd iselder ar ôl geni wedi effeithio arna i fi, doeddwn ddim eisiau mynd allan gan y daeth gorbryder efo fo hefyd, felly’n methu mynd i siopa, ddim eisiau gwneud cyfarfodydd Zoom yn ystod y cyfnod clo.

“Roeddwn yn barod i roi Twm i ddieithryn ar y stryd os fysa rywun wedi cynnig ei gymryd o gennyf i.”

Er iddi ei chael hi’n anodd magu perthynas gyda Twm, dywed na fyddai hi’n gallu byw hebddo bellach.

“Roeddwn yn sâl tra’n feichiog efo Twm yn 2019,” meddai.

“Roeddwn yn yr ysbyty llawer – methu anadlu, cysgu llawer – Covid basically, ond doedd dim ffasiwn beth yn bodoli ym Medi 2019 yn swyddogol, nag oedd?!

“Beth bynnag, cefais enedigaeth anodd, wedi gorfod cael C-section, yna daeth Twm.”

Creadigrwydd yn fodd i fyw

“Rwy’n cofio eistedd ar lawr Ddydd Nadolig yn gweld Nel a Twm yn agor anrhegion – Nadolig cyntaf Twm – a dim emosiwn o gwbl yna,” meddai Awen Davies-Jones am yr isafbwynt yn ei salwch.

“Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at eu gweld nhw’n gwenu a mwynhau agor anrhegion, a bod Siôn Corn wedi bod.

“Roeddwn yn gwybod adeg yma bo fi angen meddyginiaethau cryfach, a dyna gefais.

“Erbyn i’r cyfnod mamolaeth ddod i ben, roeddwn oddi ar waith yn syth oherwydd yr iselder.”

I leddfu’r iselder ar ôl geni, trodd at greadigrwydd, wrth iddi gymryd meddyginiaethau cryf i’w helpu efo’i hemosiynau hefyd.

“Gwnes i ddechrau ymlacio a chael amser i fi fy hun wrth greu pethau efo clai,” meddai.

“Roedd hyn yn dod â hapusrwydd i mi.

“Roeddwn yn creu anrhegion i athrawon yn dweud diolch, yn creu cardiau, yn creu magnedau clai i’w rhoi ar yr oergell.

“Roedd meddyginiaethau bendant wedi helpu.

“Y tabledi a’r clai sydd wedi helpu, ar ben cefnogaeth teulu, ffrindiau a’r meddyg wrth gwrs.”

Cywilydd

Fel athrawes uchel ei pharch yn y gymuned, roedd gan Awen Davies-Jones gywilydd o’i salwch, ond cymerodd y cam cyntaf i gael cymorth trwy ddweud wrth y doctor.

Ond mae hi’n pwysleisio pa mor bwysig oedd cymryd y cam cyntaf wrth ofyn am gymorth.

“Doeddwn i ddim eisiau i neb wybod,” meddai.

“Sut fysa athrawes yn gallu bod mor isel â hyn?

“Dw i fod yn gryf. ‘Snap out of it‘, roeddwn yn ei ddweud.

“Ond roeddwn i’n gweld fy hun yn gweiddi ar Nel yn aml.

“A meddwl dydy hyn ddim yn deg iddi hi.

“Felly oherwydd Nel y gwnes i ffonio’r meddyg.

“Munud wnes i ddweud wrth y meddyg beth oedd, gwnes i feichio crio gan feddwl, ‘O’r diwedd, rwy’ wedi gwneud y cam cyntaf a gofyn am help.”