Mae Llywodraeth Cymru wedi gwerthu’r cwmni teledu Seren Studios yng Nghaerdydd i gwmni cyfryngau o’r Unol Daleithiau.
Mae’r cwmni Great Point Studios yn arbenigo mewn seilwaith ffilm a theledu, a bydd Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn darparu pecyn cyllido gwerth £18m er mwyn datblygu’r cyfleusterau.
Bydd yr arian yn galluogi Great Point Studios i uwchraddio’u stiwdio ymhellach, gan gynnal yr alw am gynhyrchu wrth ddarparu swyddi a chyfoeth yn y rhanbarth.
Yn ogystal, bydd datblygu cyfleuster hyfforddi cydweithredol yn helpu i adeiladu sgiliau a meithrin talent leol.
Mae disgwyl y bydd y prosiect yn cefnogi criw o hyd at 750 o bobol sy’n cael eu cyflogi’n llawrydd, sy’n gynnydd o’r 250 presennol.
Bydd y stiwdio yn dod yn bencadlys i Great Point Studios, sydd wedi bod yn lesio’r stiwdio ers 2020 cyn ei brynu.
‘Cyfnod cyffrous’
Dywed Llywodraeth Cymru fod penderfyniad y cwmni i brynu’r stiwdio yn adlewyrchu’r hyder cynyddol yn niwydiant ffilm a theledu Cymru.
Dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, fod cyfnod cyffrous ar y gweill i’r sector.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r sector creadigol yng Nghymru – ac mae gweld Great Point Studios yn prynu’r stiwdio a’u buddsoddiad arfaethedig yn dangos enghraifft arall o hyder yng Nghymru fel lleoliad gwych a sefydledig ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu,” meddai.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn creu rhagor o swyddi ac yn helpu i gadarnhau dyfodol cryf i’r sector – gan atgyfnerthu’r galw a’r parch mawr i’n gweithlu creadigol medrus yma yng Nghymru.”
Caerdydd yn “gymuned greadigol”
Yn ôl y Cynghorydd Anthony Hunt, cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’r buddsoddiad yn un amserol iawn.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi safle presennol Seren Studios i wireddu ei botensial llawn fel rhan allweddol o sector blaenoriaeth Diwydiannau Creadigol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd,” meddai.
“Daw ar adeg pan fo cynhyrchu ffilm a theledu yn newid ffurf ledled y byd – a bydd yn galluogi ein Rhanbarth i gael mwy o effaith yn fyd-eang ar ddiwydiant creadigol sy’n dod â gwerth aruthrol, o ran creu swyddi cynaliadwy a chryfhau cadwyni cyflenwi lleol.”
Mae Robert Halmi, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Great Point Studios, wedi disgrifio Caerdydd fel “cymuned greadigol ffyniannus” lle mae “gweithwyr proffesiynol medrus iawn” a “lleoliadau prydferth”.
“Gyda’r galw cryf parhaus am gynnwys, roedd prynu Seren Stiwdios ac ehangu ein hôl troed yng Nghymru yn gam nesaf naturiol,” meddai.
“Edrychwn ymlaen at barhau â’n hymrwymiad i addysg, gweithio gyda’r gymuned leol a datblygu llawer o gyfleoedd ymhellach yn Great Point Studios Cymru wrth i’r wlad barhau i brofi twf mor aruthrol.”