Mae awdures o Sir Drefaldwyn yn dweud bod ysgrifennu nofelau yn ei helpu hi i beidio â theimlo’n unig.
Wrth siarad â golwg360, dywed Myfanwy Alexander fod creu cymeriadau hefyd yn ei galluogi hi i ddianc i fyd arall gyda nhw.
Ac ar ôl byw ym mhob cornel o wledydd Prydain, dychwelodd yn dilyn ysgariad i fagu chwech o ferched ar ei phen ei hun mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion.
Mae hi wedi ysgrifennu pum nofel – A Oes Heddwas? (2015), Pwnc Llosg (2016), Y Plygain Olaf (2017), Mynd fel Bom (2020) a Coblyn o Sioe (2023).
Cysylltu efo’r cymeriadau
Er bod bywyd Myfanwy Alexander wedi newid ers i’r plant adael y nyth, dydy hi byth yn teimlo’n unig tra bod ganddi gymeriadau ei llyfrau yn gwmni iddi.
Mae hi’n dweud ei bod hi “wastad yn cysylltu efo’r cymeriadau” wrth greu byd arall.
“Mae’r cymeriadau wastad efo fi,” meddai.
“Weithiau, rwy’n sylweddoli os dw i wedi bod yn sgwennu a meddwl amdan y cymeriadau, dydw i ddim yn sylweddoli fy mod i wedi bod ar ben fy hun, o bosib am gwpwl o ddyddiau os ydw i’n gwneud gwahanol dasgau.
“Dydy hyn ddim yn digwydd yn aml iawn, ond dwêd bo fi’n glanhau’r tŷ am sawl awr, bydda i’n meddwl i fy hunan, ‘Gosh, mae’r lle yma’n dawel, rwy’ ar ben fy hun’.
“Rydw i wedi magu chwech o blant.
“Mae’r ffaith eu bod nhw wedi tyfu fyny a dydw i ddim efo gŵr dim mwy, weithiau rwy’n teimlo bod bywyd wedi newid mewn rhyw ffordd, dydw i ddim yn hapus bod o wedi newid.
“[Ond] pan dw i ynghlwm â’r broses o greu, mae’r perthnasau sydd gennyf efo’r cymeriadau, sgwennu deialog yn enwedig, yn gwneud i mi deimlo bod gennyf i gwmpeini.”
Fel “ffrind dychmygol”
Gyda’i phlant i gyd yn oedolion annibynnol, doedd Myfanwy Alexander ddim eisiau mynd yn ôrddibynnol ar ei ffrindiau, ac felly mae’r llyfrau yn creu byd arall iddi fel “unig blentyn sy’n creu ffrind dychmygol”.
“Mae’r ferch ieuengaf wedi gadael tair, pedair blynedd yn ôl,” meddai wedyn.
“Daeth hi yn ôl am dipyn oherwydd Covid.
“Dydw i ddim yn cwyno.
“Yn ffodus, maen nhw i gyd wedi llwyddo i deithio’r byd a byw ble bynnag maen nhw’n mynnu.
“Dydw i ddim eisiau bod y person sy’n byw ar ben fy hun sydd wastad yn poeni ffrindiau.
“Dw i jest yn teimlo bod y broses o greu fatha cysur, rili.
“Pe baech chi’n ei ddisgrifio, mewn un ffordd mae fel unig blentyn sy’n creu ffrind dychmygol.
“Mae’n rywbeth rydw i’n mwynhau yn bersonol ac yn emosiynol, ond hefyd mae’r syniad ’mod i’n creu stori mae pobol eraill yn ei mwynhau sy’n fodd i estyn allan.”
Meddwl am eraill
Mae Myfanwy Alexander yn dweud ei bod hi’n gallu uniaethu â’i chymeriadau gan fod byw ar ei phen ei hun yn golygu bod yn ddigyfaddawd.
“Os wyt ti’n byw ar ben dy hun, ti’n gallu datblygu rhyw fath o ystyfnigrwydd,” meddai.
“Does dim rhaid i chdi wneud cyfaddawd efo rhywun os wyt ti ddim yn byw efo rhywun.
“Mae’r broses o greu cymeriadau yn gorfodi fi i feddwl sut mae pobol eraill yn meddwl.
“Rwy’n meddwl bod hwn yn iachus i fi, oherwydd mae’n stopio fi fod yn rhy hunanol.”
Wrth brofi newid amgylchiadau mewn bywyd, yn enwedig rhai sydd wedi’u hynysu, mae Myfanwy Alexander yn dweud bod creadigrwydd yn gallu helpu mewn ffordd nad yw bod yn orddibynnol ar bobol a phethau yn gallu gwneud.
“Dw i jest yn meddwl ei fod yn werth ceisio datblygu eich ochr greadigol, oherwydd os oes gennyt ti lais, os wyt ti’n datblygu dy lais dy hun, mae hon yn broses gadarnhaol iawn.
“Os wyt ti’n gallu gwneud rhywbeth, beth bynnag ti’n gwneud, mae yna ryw deimlad positif amdan hynny, rydych yn derbyn rhywbeth allan ohono fe.
“Mae’r buzz o greu yn gwneud llawer mwy o les i ti na’r buzz ti’n cael o yfed, er enghraifft.
“Rwy’n mwynhau cerdded yn yr awyr iach, er enghraifft, i sicrhau fy mod yn cadw fy hwyliau i fyny, fel petai.
“Ti ddim wastad yn gallu gwneud hynny, yn enwedig os oes gennyt ti blant bach.”