Bydd Lleuwen Steffan yn rhoi cyflwyniad yng Nghapel Amor, Llanfynydd ddydd Sul (Medi 17, 2 o’r gloch) ar emynau llafar gwlad, pregethau rhyfeddol a David Griffiths Pont-ar-lyb.

Yn ôl y cerddor, casglodd David Griffiths “ddegau ar ddegau” o emynau llafar gwlad yn ystod ei oes ac yntau’n ffyddlon iawn i Gapel Amor.

Cafodd David Griffiths ddylanwad mawr ar waith diweddar Lleuwen Steffan, sy’n dweud y bydd hi’n “braf iawn” cael gwneud y cyflwyniad “mewn lle oedd mor agos at ei galon”.

“Fe gasglodd a chofnododd ddegau ar ddegau o emynau llafar gwlad yn ystod ei oes,” meddai wrth golwg360.

Ffermwr aeth ar goll yng nghof y genedl

David Griffiths

Byddai David Griffiths, ffermwr sydd wedi mynd ar goll i raddau yng nghof y genedl, yn cofio emynau llawr gwlad.

“Efallai bod enw David Griffiths Pont-ar-Lyb yn anghyfarwydd i Gymry heddiw, ond fe wnaeth waith aruthrol o gofnodi emynau gwerin y wlad,” meddai Lleuwen Steffan.

“Nid clod a bri oedd yn mynd â’i fryd, ond ei fywyd ysbrydol.

“Roedd yn ffermwr wrth ei waith, ac roedd ganddo ddawn gyda geiriau yn ogystal â chof eithriadol o dda a gwybodaeth anghyffredin am emynyddiaeth Cymraeg.

“Roedd yn mwynhau chwilio am emynau anhysbys, nad oeddent yn y llyfrau enwadau swyddogol ac felly fe gofnododd o’r penillion ar dâp ac ar bapur.

“Mae ei lais wedi ei blethu yn y gerddoriaeth rydw i wedi’i chyfansoddi yn ddiweddar, ac rwy’n gobeithio y bydd rhai oedd yn ei gofio yn bresennol yn y sesiwn ac y bydd yn gyfle inni rannu gwybodaeth a phrofiadau yn ogystal â gwrando ar y gerddoriaeth newydd a’r hen emynau.”