Bydd sengl newydd yr artist Eddie Ladd ar gael ar y label Lapous ddydd Gwener (Medi 15).

Theatr yw maes Eddie Ladd fel arfer, ond mae cerddoriaeth ddawns yn llifo trwy ei gwaith a thrwy gywaith theatr gerddorol gyda Lleuwen Steffan ac Ed Holden eleni y datblygodd y trac ‘Noswyl’.

Cafodd ‘Noswyl’ ei recordio gan Ed Holden ar leoliad yn Llandysul, a chwympodd Lleuwen Steffan mewn cariad â’r gwaith a chynnig ei chyhoeddi fel sengl ar ei label, Lapous.

Bydd ‘Noswyl’ yn cael ei pherfformio yn fyw am un noson yn unig gyda Chôr Gospel Cymunedol Llandysul nos Wener (Medi 15) yn Eglwys Tysul, Llandysul am 8 o’r gloch, fel rhan o ŵyl Ffair Elen.

Mae darn spoken word ‘Noswyl’ yn dathlu Elen, mam Owain Glyndŵr, gafodd ei geni a’i magu yn Llandysul.

Mae’n codi cwestiynau am rôl bwysig arweinwyr benywaidd yn hanes Cymru, a chyn lleied o wybodaeth sydd ar gael i ni am y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Cafodd ‘Noswyl’ ei chwarae am y tro cyntaf ar y radio gan Rhys Mwyn ddechrau’r wythnos hon, wrth iddo gadw sedd Georgia Ruth yn gynnes ar BBC Radio Cymru.