Mae prosiect gafodd ei sefydlu fel modd i bobol ifanc fynegi eu teimladau o beidio gallu cymdeithasu yn ystod y cyfnod clo bellach yn cymryd camau bychain tuag at wella’r hinsawdd.
Cafodd y Prosiect Hinsawdd ei sefydlu fel prosiect peilot gan Bethan Page, Cysylltydd Creadigol Cymunedol llawrydd sy’n hanu o’r Bala ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mhen y Bont Fawr yn Sir Drefaldwyn, ac yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy gyllid o Gronfa Gymunedol y Loteri.
Bwriad gwreiddiol y prosiect oedd helpu plant ysgol uwchradd i ymateb i effaith y cyfnod clo arnyn nhw eu hunain a’r ffactorau oedd yn ei gwneud hi’n fwy anodd iddyn nhw gymdeithasu â’i gilydd.
Ond yn ôl Bethan Page, mae newid hinsawdd yn rywbeth mae pobol ifanc yn gofidio’n fawr amdano, gan eu bod nhw’n llygad-dystion i’r niwed sy’n cael ei achosi.
Yn aml iawn, mewn canolfan gymunedol leol, roedd y bobol ifanc yn cymryd camau bychain trwy gelf a chrefft i wneud gwahaniaeth ym maes newid hinsawdd.
Mae’r Prosiect Hinsawdd yn cael ei gyd-redeg gan Fenter Maldwyn fel prosiect Cymraeg i bobol ifanc sy’n byw mewn ardal wledig ddwyieithog.
‘Dysgu a datblygu, mwynhau a chwarae’
Mae Bethan Page yn gwneud llawer iawn o waith mewn ysgolion gyda Chyngor y Celfyddydau.
Mae hi’n teimlo bod y bobol ifanc wedi cael budd mawr o’r Prosiect Hinsawdd, wrth iddyn nhw allu dysgu, datblygu, mwynhau a chwarae.
“Does dim byd yn anghywir mewn creadigrwydd,” meddai wrth golwg360.
“Rwyf wedi mynd â’r ethos o’r cynllun creadigol arweiniol [prosiect arall y bu’n gweithio arno].
“Rwy’ wedi’i gario fo drosodd i’r Prosiect Hinsawdd.
“Trwy greadigrwydd, rydym yn gallu dysgu a datblygu, a mwynhau a chwarae efo meddyliau a bod yn chwareus.
“Mae [creadigrwydd] yn rhoi rhyddid a theimlad o foddhad.
“Does dim byd arall yn gwneud beth mae creadigrwydd yn ei wneud.”
Lles yn bwysicach na’r celf ei hun
Mae Bethan Page yn gweithio efo pobol ifanc yn ei chymuned ei hun, ac mae hi’n dweud bod lles pobol ifanc yn bwysicach na’r celf.
“Mewn ffordd, nid fy rôl i yw darparu gweithdai celf, ond i annog y gymuned i wella eu lles, i ymgysylltu gyda’i gilydd,” meddai.
“Dyna fy rôl – Cysylltydd Creadigol Cymunedol.
“Rwy’n cydweithio efo gwahanol eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Cymru.
“Yn ystod cyfnod Covid, roeddwn yn gorfod gweithio yn fy mhentref fy hun yng ngogledd Powys.
“Wrth i ni ddod allan o Covid yn 2021, gwnes i ddod fyny efo’r syniad o gynnal prosiect efo plant oedran uwchradd yn yr ardal leol yma, mewn ymateb i’r ffaith fod Covid wedi effeithio ar les pobol ifanc gymaint.
“Maen nhw wedi colli allan ar y cyfle i fod efo’u ffrindiau, i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.
“Roedd wedi effeithio ar les, ac mae’n dal yn cael effaith ar les plant a phobol ifanc hyd yn oed rŵan.”
Yr hinsawdd
Gyda phobol ifanc ar dân eisiau mynd i’r afael â newid hinsawdd, gwnaethon nhw lawer o bethau creadigol er mwyn ceisio atebion i’r broblem.
“Y rheswm mai’r hinsawdd oedd ffocws y prosiect oedd oherwydd roeddwn hefyd wedi bod yn siarad efo rhieni ac efo plant fy hun,” meddai Bethan Page.
“Yn amlwg, mae pryder am yr hinsawdd yn effeithio ar lawer ohonon ni.
“Dydyn ni methu dianc o’r peth.
“Hefyd, efo plant a phobol ifanc, roeddwn yn teimlo bod hyn mor galed arnyn nhw i deimlo bod y pwysau i gyd arnyn nhw, o weld beth maen nhw’n ei weld, o ran teimlo bod popeth yn crymblo dan eu llygaid nhw, bod pethau wedi troi jest yn rybish yn y byd.
“Mae e i gyd ar eu hysgwyddau nhw, a fatha teimlad o fethu gwneud unrhyw beth am y peth.
“Beth roeddwn i’n meddwl oedd, drwy brosiect creadigol, y byswn yn gallu helpu lles y plant a phobol ifanc yma.
“Efo’r Prosiect Hinsawdd, gwnes i recriwtio ffrind Cymraeg o ysgol leol, Ysgol Uwchradd Llanfyllin.
“Roedd prosiect peilot efo 15 o bobol ifanc a chyfarfod mewn canolfan gymunedol yn y pentref.
“Tri ffocws y prosiect creadigol oedd creadigrwydd, lles a hinsawdd.
“Ym mhob sesiwn, bydden ni’n ystyried yr hinsawdd a chamau bach fasen ni’n gallu’u cymryd i wneud i’r bobol ifanc deimlo’u bod nhw’n gallu gwneud pethau bach, bo nhw ddim yn teimlo’i fod o’n ddiobaith, bod pethau bach maen nhw’n gallu’u gwneud i helpu’r argyfwng hinsawdd.
“Yn aml iawn, beth oedd hynny oedd prosiect celf a chrefft ac wedyn fysen ni’n cyfuno neges hinsawdd ynddo fo – er enghraifft, creu pecynnau blodau gwyllt efo neges newid hinsawdd wedi’i phaentio a’i haddurno ar y pecyn.
“Wedyn, dosbarthu rheini yn y gymuned i ffrindiau a theulu.
“Hefyd, gwnaethon ni addurno crysau-T o siop elusen fel bo ni ddim yn prynu rhai newydd, printio arnyn nhw a’u haddurno nhw efo paent ffabrig.
“Roedden nhw’n gwisgo’r rheiny, ac roeddem yn dosbarthu lluniau wedyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Roeddem yn dosbarthu a gwasgaru’r negeseuon hinsawdd yma, nid yn unig ymysg ein hunain ond tu allan i’r grŵp yn y gymuned a phawb oedd yn dewis edrych ar y tudalen cyfryngau cymdeithasol.
“Gwnaethon ni faneri hinsawdd, a’r un peth efo heini – pawb yn cyfuno negeseuon hinsawdd ar rheini.
“Roedd llawer o ddulliau creadigol yn cael eu defnyddio, fel pwytho, paentio a bob math o bethau fel yna, ac roeddem yn mynd ar deithiau cerdded hefyd.”
Bod yng nghanol natur
Yn ganolog i’r prosiect roedd cael bod yn yr awyr agored yng nghanol byd natur, wrth ganolbwyntio ar lygredd a phrydferthwch natur.
Unwaith eto, roedd y gwaith yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol wedyn.
“Rhan fawr, bwysig o’r prosiect oedd lles, felly roeddem yn treulio amser tu allan yn cerdded ac yn rhoi briff bach iddyn nhw o dynnu llun o rywbeth oedd yn tynnu eu sylw, rhywbeth maen nhw’n teimlo oedd yn wych am yr amgylchfyd neu rywbeth oedd yn eu poeni nhw,” meddai.
“Er enghraifft, efallai y bydden nhw’n tynnu ffotograffau o rywbeth prydferth neu lun o blastig wedi cael ei ddal ar ochr afon leol.
“Wedyn, roeddem yn rhannu’r ffotograffau yna ar dudalen cyfryngau cymdeithasol y grŵp.
“Rhan ganolog o’r prosiect oedd bod y bobol ifanc yn cael cyfle i fod efo’i gilydd.
“Tra roedden nhw’n bod yn greadigol ac yn gwneud y gwaith yma, roedden nhw’n cymysgu efo’i gilydd, yn cael cyfle i dreulio amser yn lleol efo’u ffrindiau ac yn gwneud fyny am y ffaith eu bod nhw wedi colli allan gymaint yn ystod cyfnod Covid.”
Sgiliau newydd
Ar yr un pryd, dysgodd y bobol ifanc nifer o sgiliau newydd wrth wneud pethau gwahanol i’r arfer.
“Tuag at ddiwedd y prosiect peilot, roedd rhai o aelodau hŷn y Prosiect Hinsawdd yn datblygu sgiliau arwain,” meddai.
“Gwnaethon nhw ddyfeisio’u gweithgaredd eu hunain, a nhw oedd yn arwain honna wedyn.
“Roedd pedair ohonyn nhw’n 15-16 oed.
“Gwnaethon nhw ddyfeisio gweithdy bach lle, os oedden nhw yn mynd i gastell Powys, gan bo ni’n gysylltiedig â National Trust Cymru, roedden nhw wedyn yn casglu llawer o flodau a hadau, a phethau fysa’n gallu cael eu gwasgu i wneud gwahanol liwiau inc a phaent.
“Wedyn, paentio ar wahanol ddarnau o bapur a’u hongian nhw fyny ac addurno’r orangery yng ngerddi Castell Powys.
“Nid yn unig roedden nhw yn arwain hwnna efo aelodau’r grŵp, ond hefyd efo ymwelwyr â’r castell, a phlant pobol eraill yn dod mewn a chymryd rhan yn y gweithgaredd hwnnw.
“Maen nhw wedi bod yn gwneud ioga, cerdded, bob math o bethau creadigol.”