Mae gwerthwr blodau yn dweud ei bod hi’n teimlo bod “ysbryd Duw yn dod allan o’r blodau” a’i bod hi’n teimlo ysbryd Duw wrth iddi weithio.
Mae Jan Jones, sy’n hanu o Sir Drefaldwyn, yn 50 oed ac yn byw yng Nghaeathro ger Caernarfon.
Mae ganddi fusnes o’r enw Tŷ Blodau, ac mae hi’n gweithio gartref gan wneud defnydd llawn o hen stabl sydd wedi’i thrawsnewid yn weithdy.
Yno, mae hi’n mwynhau creu dyluniadau ar gyfer priodasau, angladdau a mathau gwahanol o dusw ar gyfer anrhegion.
A hithau’n Gristion, mae hi’n teimlo bod ei chreadigrwydd yn ei chysylltu hi â Duw, gydag ysbryd Duw yn dod allan o’i blodau ar achlysuron nodedig ym mywydau pobol.
Duw a chreadigrwydd
Mae Jan Jones yn teimlo ein bod ni i gyd wedi ein creu gan Dduw, a bod creadigrwydd a bod yn greadigol yn rhan o’r natur ddynol a’i fod yn codi’r ysbryd.
“Rwy’n gweithio efo blodau, dail a phethau naturiol, ac yn eu rhoi nhw efo’i gilydd mewn priodasau ac angladdau, gift bouquets, pethau fel yna,” meddai wrth golwg360.
“Rwy’n credu’n bod ni i gyd wedi cael ein creu gan Dduw i fod fel Fo, ac mae O wedi creu’r byd i gyd.
“Credaf ein bod ni i gyd efo dawn greadigol, er bod llawer o bobol yn dweud bo nhw ddim yn greadigol o gwbl.
“Rwy’n meddwl Ei fod yn ffeindio lle mae’n llifo allan, rili.
“Hynny ydy’r peth mwyaf.
“Rwy’ jest ffeindio fy hun, pan rwy’n gwneud rhywbeth creadigol, fod yna rhyddid; mae fy ysbryd neu enaid neu beth bynnag yn teimlo’n ysgafnach.
“Rwy’n teimlo mwy fel fi pan rwy’n gwneud pethau creadigol.
“Mae’r un fath os rwy’n paentio.
“Dydw i ddim yn dda iawn yn paentio, mae jest gwneud rhywbeth creadigol yn fy helpu i ymlacio.
“Mae’n siŵr mai’r gair ar hyn o bryd yw mindfulness; mae’n helpu fi i fod yn fwy cysylltiedig.
“I fi, mae’n helpu fi i gysylltu efo Duw.”
Gweithio ac addoli
Mae Jan Jones yn addoli, ac yn teimlo Duw wrth iddi weithio.
Er ei bod yn cydnabod nad yw pawb yn Gristnogion, mae’n meddwl bod blodau yn helpu i gysylltu pobol mewn modd ysbrydol.
“Pan rwy’n gweithio, rwy’n gweddïo o hyd,” meddai.
“Rwy’n addoli pan rwy’n gweithio.
“Mae gennyf obaith.
“Mae ysbryd Duw yn mynd allan efo’r blodau rwy’n anfon, fel sympathy bouquets.
“Rwy’n treulio trwy’r dydd efo’r Ysbryd Glân.
“Rwy’ jest yn credu bod yr Ysbryd Glân a’i bresenoldeb O efo’r blodau rwy’n anfon allan.
“Bydd yn rhoi cymorth i bobol ac yn helpu pobol i wybod dydyn nhw ddim ar eu pennau eu hunain.
“Dyna pam rydym yn anfon blodau, i atgoffa pobol rydym yn meddwl amdanyn nhw.
“Er dydy o ddim o reidrwydd yn grefyddol, mae’n cysylltu un person efo person arall.”
Angladdau
Fel Cristion, mae blodau’n symbol o fywyd ar ôl marwolaeth i Jan Jones, ac yn gysur i bobol wrth alaru hefyd.
“Rwy’n cael cymaint o bobol yn dod ’nôl ata’ i ar ôl angladd, jest yn gwerthfawrogi’r gwaith rili,” meddai.
Er bod angladd yn digwydd ar ôl marwolaeth, mae hi’n teimlo bod derbyn rhywbeth byw, ffres yn gwneud lles i bobol.
“Mae jest cael nhw o gwmpas yn atgoffa pobol dydy o ddim y diwedd, mae yna fywyd newydd.
“Mae’r oglau’n gwneud gwahaniaeth.
“Mae pobol eisiau rhywbeth sy’n perthyn i’r person, gall hyn fod eu hoff flodau, i helpu pobol ar y diwrnod trist.
“I mi, mae fel eu bod nhw wedi mynd am y tro, ond mae yna fywyd newydd yn y dyfodol – ar yr ochr arall, os lici di.”
Priodasau
Er nad yw pob priodas mae Jan Jones yn gwneud blodau ar eu cyfer yn rhai crefyddol, mae hi’n credu bod y blodau’n gysur i bobol.
“Efo priodasau mae ychydig yn wahanol,” meddai.
“Mae cymaint o briodasau rwy’n gwneud sydd ddim yn o reidrwydd yn grefyddol.
“Mae cael rhywbeth sy’n ffres ac yn fyw jest yn helpu.
“Rwy’n gweld efo brides, mae’n rywbeth maen nhw’n gallu cario a gafael yn dynn ynddyn nhw.
“Mae’n rhoi nerth iddyn nhw rywsut pan maen nhw’n cerdded lawr at yr allor.
“Maen nhw efallai ychydig bach yn nerfus; jest cael blodau i afael yn dynn, mae hyn yn rhoi heddwch i chi.”