Mae cysylltiad anorfod rhwng dyslecsia a’r gallu i fod yn greadigol, yn ôl athrawes gelf sy’n fam i ddau o blant sydd â’r cyflwr.
Mae gan fab a merch Haf Weighton ddyslecsia.
Mae hi wedi ymuno â rhiant arall sydd yn arlunydd, a nifer o bobol broffesiynol yn y byd dyslecsia ledled Cymru i sefydlu rhwydwaith dyslecsia a chreadigrwydd, gan ddweud bod y system addysg yn rhy gul ac nad yw’n ddigon creadigol.
Astudiodd Haf Weighton gwrs Celf Sylfaen yng Nghaerdydd ddechrau’r 1990au, cyn mynd yn ei blaen i wneud gradd mewn Tecstilau yn Lerpwl.
Ar ôl teithio am rai blynyddoedd a gweithio ledled y byd, symudodd i Lundain yn 2000 a gwneud Celf ac ymarfer dysgu yn Brighton yn 2003.
“Mae fy mhlant i rŵan yn naw a deuddeg oed, ac mae fy merch yn mynd i ysgol unigryw iawn yng Ngaherdydd sydd yn dyslecsia friendly, ac i uned dyslecsia TG yng Nghaerdydd unwaith yr wythnos – achos fod ysgol draddodiadol ddim wedi gweithio iddi,” meddai wrth golwg360.
“Roedd o’n gyfnod reit anodd i ni fel teulu pan oedd hi’n ffeindio ysgol brif ffrwd yn heriol.
“Doeddwn i ddim rili wedi sylweddoli faint oedd o’n effeithio arni hi.
“Weithiau, pan mae pobol yn adnabod fi fel mam, dydyn nhw ddim yn gwybod am fy mywyd fel arlunydd; maen nhw wedi synnu fy mod yn gallu gwneud y ddau.
“Fel mam i blant sydd efo anghenion, mae gennyf fi gymaint o gyfrifoldebau.
“Mae llawer ohono i wneud efo brwydro’r system a thrio cael y gorau i’ch plant.
“Rwy’n ffeindio fod bod yn greadigol yn rili helpu hwnna.”
Sefydlu rhwydwaith dyslecsia a chreadigrwydd
Mae Rhwydwaith Dyslecsia Cymru wedi gwneud llawer o waith ar greadigrwydd.
“Gwnaeth yr artist Shari Llewelyn gysylltu efo fi yn y dechrau a thrafod y syniad,” meddai Haf Weighton.
“Gwnaeth hi ymgeisio i Gyngor y Celfyddydau i redeg rhwydwaith dyslecsia a chreadigrwydd yng Nghymru.”
Ymhlith aelodau’r rhwydwaith mae darlithydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd sy’n arbenigo mewn anghenion amrywiol, a phobol eraill sydd â’u harbenigeddau eu hunain.
“Mae yna gwpwl o bobol eraill yn rhan o’r rhwydwaith, fel pobol yn y byd cerddoriaeth, awduron.
“Gwnaeth Shari redeg gweithdy creadigol i blant efo Casi Wyn (Bardd Plant Cymru), efo cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru yn y gogledd.
“Rydym yn cwrdd bob chwe mis ar-lein, a’r tro diwethaf daeth pobol o America i mewn i’r drafodaeth hefyd – Dean Bragonier a Sally Taylor i drafod eu gwaith efo’r prosiectau Noticeability a Consensus – sydd yn arloesi yn y byd dyslecsia yn fyd-eang.
“Rydym wedi bod yn siarad efo’r Urdd, ac yn gobeithio yn y dyfodol sefydlu penwythnos i blant sydd â dyslecsia a’u rhieni yn Llangrannog neu Glan-llyn.”
Dyslecsia a chreadigrwydd
Gan fod pobol â dyslecsia wedi arfer dysgu mewn ffordd wahanol, yn aml mae’n golygu eu bod nhw’n naturiol greadigol.
“Pan oeddwn yn dysgu Celf yn Llundain, roeddwn i’n darganfod fod llawer o blant roeddwn yn eu dysgu yn ddyslecsic wrth i mi ddod i’w hadnabod nhw,” meddai Haf Weighton.
“Mae pobol sy’n ddyslecsig yn aml wedi dysgu i feddwl mewn ffordd wahanol.
“Efallai bo nhw ddim yn gallu dysgu mewn ffordd draddodiadol, ac maen nhw wedi goroesi hwnna trwy greu strategaeth i ddod drosto fo.
“Efo pobol greadigol, rydym yn aml wedi dysgu ei hunain i fedru gwneud rhywbeth creadigol fel arlunio, yn aml rydym yn gorfod ymarfer lot a dyfalbarhau.
“Mae dyslecsia yn eich dysgu chi i ddyfalbarhau a ffeindio ffyrdd o gwmpas problemau, achos dydych chi’n methu dysgu mewn ffordd draddodiadol, felly mae’n gysylltiedig efo creadigrwydd, achos dyna’r union sgiliau rydych chi eu hangen i fod yn greadigol.
“Dw i yn falch fod fy mhlant i’n rili greadigol.”
Y system addysg
Mae Haf Weighton yn poeni bod y system addysg yn or-academaidd, sy’n rhwystro plant rhag meddwl mewn ffordd greadigol.
“Rwy’n gweithio i’r Cyngor Celfyddydau ac Prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol – lle rydych yn mynd mewn a rhedeg y gweithdai yma dros gyfnod o chwe wythnos. Mae yn brosiect arloesol sydd yn defnyddio creadigrwydd fel man cychwyn ar gyfer pob dysgu yn y dosbarth,” meddai.
“Un o’r pethau rydw i’n ei wneud yw rhoi darn mawr o bapur ar y llawr a gofyn i blant arlunio a chreu lluniau o amlinelliadau ei gilydd, lluniau’n ymwneud efo hunaniaeth a’u hunain o fewn yr amlinelliadau yma.
“Mae plant, yn enwedig plant Blwyddyn 3 neu 4, plant ysgol gynradd, oherwydd y ffordd maen nhw’n cael eu dysgu yn dechrau sgwennu yn lle arlunio, ac mae gweld hynny yn torri fy nghalon.
“Os dw i’n dweud, ‘Dw i ddim eisiau i chi ysgrifennu geiriau, dw i ddim ond eisiau i chi ddefnyddio lluniau’, mae’r plant yn aml yn ffeindio hwnna’n rili anodd.
“Beth sy’n negyddol am hynny, maen nhw ond yn gwybod sut i ddysgu a chyfathrebu mewn un ffordd – drwy ysgrifennu, oherwydd dyna fel mae llawer o ysgolion yn dueddol o’u hannog i wneud.
“Mae gormod o duedd tuag at ysgrifennu, darllen a rhifedd, mewn ffordd draddodiadol, ac yn aml dydy creadigrwydd ddim yn ddigon o rhan o’r profiad addysg.
“Beth sy’n fy mhoeni yw beth sy’n mynd i ddigwydd.
“Heb greadigrwydd, dydyn nhw ddim yn datblygu syniadau rwyt ti eu hangen am y dyfodol. Ar gyfer swyddi nad ydyn nhw hyd yn oed wedi’u dyfeisio eto.
“Er mwyn datblygu sgiliau newydd, mae angen dyfalbarhad, a dyna lle mae meddylwyr dyslecsig a chreadigrwydd yn dod i rym.
“Y gobaith yng Nghymru ydy datblygiad ein cwricwlwm newydd a’r Ddeddf Anghenion Dysgu newydd.
“Hoffwn weld mwy o ysgolion yn datblygu o’u profiad o weithio ar brosiectau ysgolion creadigol arweiniol gyda’r Cyngor Celfyddydau, dangos mwy o ymwybyddiaeth o blant sydd yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol, ac annog eraill i ddatblygu eu sgiliau creadigol yn well.”