Mae Gwenno Dafydd, sy’n dod o Abergwaun yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn dweud bod hapusrwydd i’w gael o ddefnyddio’i llais a bod yn greadigol.

Wrth siarad â golwg360, dywed fod bod yn greadigol yn rhan o bwy ydy hi fel person, a bod hynny yn ei gwneud hi a phobol eraill yn hapus.

O ganu i berfformio ac ysgrifennu, dydy hi ddim yn credu y byddai hi’n hapus pe bai hi’n colli ei chreadigrwydd, meddai.

Cefndir creadigol

Mae creadigrwydd Gwenno Dafydd yn mynd yn ôl i’w phlentyndod, ac yn parhau hyd heddiw.

“Dechreuais i sgwennu’n ifanc iawn,” meddai wrth golwg360.

“Enillais i wobr trwy Gymru gyfan am sgwennu stori pan oeddwn o dan wyth.

“Pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd, roedd bod yn greadigol yn meddwl canu yn yr Eisteddfod a chymryd rhan mewn dramâu yn yr ysgol.

“Roedd bod yn y coleg yn golygu bod yn greadigol, oherwydd yr actio roeddwn yn ei wneud.

“Pan es i allan i Wlad Belg i fod yn au pair, roeddwn yn bod yn greadigol trwy ganu mewn bwytai a bod yn busker.

“Roedd fy nghreadigrwydd yn dod allan yn fy llais i.

“Roeddwn hefyd, bryd hynny, yn ysgrifennu caneuon.

“Dechreuais i sgwennu caneuon, ac roeddwn yn perfformio yn yr English Comedy Club.

“Wnes i barhau i fyw yng Ngwlad Belg tan 1983, a bues i’n canu, perfformio a sgrifennu yn ystod y cyfnod yna.

“Roeddwn yn sgrifennu rhywbeth o’r enw The Bulletin ac roeddwn yn cyfrannu i fisolyn yng Nghymru, Pais.

“Ers dod nôl yn 1983, rwy’ wedi rhannu’r stwff creadigol rwy’n gwneud fel bywoliaeth sef darlledu, perfformio, ysgrifennu a chreu syniadau, ac yn y blaen.

“Hefyd, rwy’n reit greadigol yn fy ngwaith i fel anogydd siarad cyhoeddus.

“Rwy’ dal yn sgwennu barddoniaeth a chaneuon i blant.”

Creadigrwydd yn dod â hapusrwydd

I Gwenno Dafydd ac eraill o bob oed, mae ei chreadigrwydd yn dod â hapusrwydd a boddhad.

“Mae creadigrwydd wedi fy ngwneud yn hapus tu hwnt yn fy mywyd i, ac un peth sy’n rili hapus i mi yw gwneud pobol eraill yn hapus,” meddai.

“Mae gweld yr hapusrwydd ar wynebau pobol pan rwy’ wedi bod yn perfformio, boed hynna’n fy sioe un ddynes am y gantores Edith Piaf, neu os rwy’ wedi gwneud i rywun chwerthin.

“Mae angen bod yn greadigol efo’r meddyliau.

“Rwy’ wrth fy modd yn gwneud i bobol chwerthin mwy nag unrhyw beth.

“Mae’r darnau o farddoniaeth wedi gwneud i blant fod yn hapus yn eu hadrodd nhw.

“Cefais Dewi’r Dwrgi wedi’i befformio yn Eisteddfod yr Urdd; rwy’n siŵr bod hwnna wedi gwneud llawer o blant a rhieni’n hapus.

“I fi, mae bod yn greadigol yn ganolog i bwy ydw i fel person.

“Os byswn i’n colli fy nghreadigrwydd i, fyswn i ddim yn hapus; byddwn i’r gwrthwyneb, yn ddigalon a diflas tu hwnt.

“Mae angen bod yn greadigol i fod y person i wneud i bobol eraill chwerthin a joio.

“Mae hwnnw hefyd wedi dod â llawer o hapusrwydd i mi, i wneud pobol eraill yn hapus.”

Logo Sing For Wales

‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn cyrraedd pedwar ban y byd

Pobol yn canu yn Jamaica, yr Unol Daleithiau, De Affrica, Ciprys, Bwlgaria a Sbaen