Roedd yr ymdrechion i annog pobol i ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ i ddiolch, nid yn unig i’r Gwasanaeth Iechyd ond hefyd i bawb am wneud eu rhan wrth frwydro’r coronafeirws yn “llwyddiant mawr”, yn ôl Gwenno Dafydd, un o drefnwyr ymgyrch ‘Canu dros Gymru’.
Bu’n siarad â golwg360 ar ôl gweld bod fideos o bobol yn canu nos Lun (Ebrill 13) wedi cyrraedd y we o wledydd mor bell i ffwrdd â Jamaica, yr Unol Daleithiau, De Affrica, Awstralia, Cambodia, Ciprys, Bwlgaria a Sbaen.
Ac mae’r grŵp Facebook ‘Sing For Wales’ wedi denu mwy na 120,000 o aelodau mewn cyfnod byr iawn.
Ar ôl gweld neges ar Facebook gan Sarah Evans o Went, cwta ychydig oriau ar ôl i Sarah ei sefydlu ar Fawrth 29, y cafodd Gwenno Dafydd ei sbarduno i ymuno â’r ymgyrch, ac maen nhw bellach yn ddwy allan o’r grŵp o bump o drefnwyr, sydd hefyd yn cynnwys Scott Evans, gŵr Sarah, y Cynghorydd Rhys Mills a Gavin Clifton.
“Ar y dydd Iau, ro’n i allan ar y palmant yn canu i bobol oedd yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai’r perfformiwr, awdur a hyfforddwr siarad cyhoeddus wrth golwg360.
“Ar y dydd Sul wedyn, fe welais i fod rhywun o’r enw Sarah Evans wedi sefydlu’r grŵp ‘Sing For Wales’ a meddwl ‘Waw!’.
“Roedd hi eisiau canu i ddiolch i bawb oedd wedi bod yn ein cynnal ni yn ystod y cyfnod yma. So wnes i gysylltu gyda hi a chynnig helpu.”
“R’oedd yn fraint anhygoel i allu arwain y canu adeg yr achlysur hynod o arbennig yma ac i fod yn un o’r pump aelod gweithgar iawn o’r Pwyllgor Llywio fu’n trefnu,” meddai neges ar waelod y fideo ar YouTube.
“Hoffwn ddiolch i Rhys Mills, Gavin Clifton, Scott Evans ond yn arbennig i Sarah Evans gafodd y syniad ac yn fwy diweddar y BBC a Wynne Evans am eu cefnogaeth, ac yn olaf ond yn bwysicach na dim, diolch i bron i 120,000 o’r #Cymru a’r #CymruArWasgar am eu cefnogaeth i’r grŵp. Fe wnaethom ni dîm rhyfeddol!”
Dysgu pobol i ynganu’r geiriau
A hithau’n gyfrifol yn y gorffennol am helpu i greu ap i ddysgu pobol sut i ynganu geiriau’r anthem genedlaethol, penderfynodd Gwenno Dafydd – awdur llyfr Stand Up and Sock It To Them Sister am ferched yn y byd comedi – fanteisio ar adnoddau oedd ganddi o ddyddiau’r ap.
“Er fod yr ap ddim ar gael, roedd yr adnoddau’n dal ar gael ac un o’r rheina oedd fideo ohona i’n ynganu’r geiriau’n reit glir gydag is-deitlau o’r geiriau oddi tano.
“Gynigiais i rheina, a ’wedais i bydden i’n recordio fi’n canu a gallai hi roi hwnna lan ar y grŵp, a dyna beth ddigwyddodd.”
Radio Cymru a Radio Wales yn cefnogi’r ymgyrch
Y tu hwnt i hynny, mae hi hefyd wedi bod yn helpu i godi proffil yr ymdrechion drwy fod yn gyfrifol am ddenu sylw’r cyfryngau, gan gynnwys Radio Cymru a Radio Wales, oedd wedi darlledu’r anthem yn fyw am 8 o’r gloch nos Lun.
“Cysylltais i gyda Radio Cymru a siarad gyda Rhuanedd Richards, pennaeth Radio Cymru, a dweud beth oedd yn digwydd a wedyn bryd hynny, wnaeth y BBC wirioneddol ddod ‘on board’.
“Oedden ni eisiau cael trac cefndirol oedd pawb yn gallu defnyddio a’r ddau beth pwysig, yn fy marn i, oedd fod e i fyny ar y wefan ymlaen llaw fel bod pobol yn gallu ymarfer iddo fe, a’r peth arall oedd fod lead-in iddo fo, a bod rhagarweiniad.
“Fues i’n trafod gyda Gareth Iwan Jones yn y BBC a wnaethon ni benderfynu gyda’n gilydd bo ni’n mynd i ddewis Côr Meibion Orffews Treforys a dyna a fu. Wedyn wnaeth Wynne Evans wneud fideo digri ohono fe’n dysgu’r anthem i bobol yn ei gegin.
“Rhwng popeth, mae e wedi dod at ei gilydd ffor ’na, mewn gwirionedd.”
Codi ymwybyddiaeth o gyflwr meddygol
Ac roedd gan Sarah Evans reswm amgenach am fod eisiau bod yn rhan o’r ymgyrch – gan weld cyfle i godi ymwybyddiaeth o gyflwr prin ei mab.
“Mae gen Sarah a Scott ddau o blant ac mae gan yr hynaf, Harri, gyflwr prin iawn o’r enw Williams Syndrome ac mae Rhys Mills, fel aelod lleol o Blaid Cymru, wedi bod yn gefnogol tu hwnt iddyn nhw gyda’i gyflwr e.
“Roedd Sarah yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr yma tra’n gwneud yr ymdrech yma.”
Mae gynnon ni gyd wahanol gysylltiadau, wnes i gysylltu gyda grŵp Côr-ona amdano fe ac mae lot ohonyn nhw wedi cymryd rhan, ac o bedwar ban byd mae gennon ni bobol sydd wedi cysylltu.
“Er bod rhai pobol yn swil i recordio eu hunain, mi wnaethon nhw ganu’r anthem er mawr ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gofalu amdanon ni yn y cyfnod gofidus yma, nid yn unig y bobol yn y Gwasanaeth Iechyd ond hefyd y bobol sy’n gweithio yn yr archfarchnadoedd, y garejys sy’n gyrru loris ar draws y wlad, loris sbwriel, y bobol sydd wedi colli busnesau…”
‘Werth yr ymdrech’
“I’r bobol sy’ ddim yn y rheng flaen, dyna fwriad Sarah, a dyna o’n i wedi licio, oedd y ffaith ein bod ni’n gwneud rhywbeth bach i ddiolch.
“Er bo fi wedi treulio pythefnos, dydd a nos, yn gweithio ar hwn, dwi’n meddwl bod e wedi bod yn werth yr ymdrech.”