Mae’r Trŵbz yn ôl gyda chaneuon roc a reggae, ond tydyn nhw heb fedru gwneud cweit yr argraff yr oedden nhw wedi ei fwriadu…

Nôl yn 2014 roedd aelodau’r Trŵbz dal yn yr ysgol pan enillon nhw gystadleuaeth Brwydr y Bandiau, a daeth eu cân roc deimladwy ‘Estyn am y gwn’ yn hit ar Radio Cymru.

Y flwyddyn ganlynol fe gyhoeddon nhw’r albym Yn y Dechrau oedd yn cynnwys riffs tew Led Zeppelin-esg a llais canu pwerus Mared Williams. Fe ddisgrifwyd y casgliad fel ‘roc trwm ffynci ffantastig’ yn y Babell Roc ar y pryd.

Erbyn 2017 roedd rhai o’r aelodau mewn gwahanol golegau, ond fe lwyddon nhw i ryddhau ambell sengl am y profiad o symud o gefn gwlad Sir Conwy i ganol bwrlwm y brifysgol ym Manceinion.

Ond yn y blynyddoedd diweddar mae’r band wedi cael cynnig llai o gigs, a dyma benderfynu mynd ati i recordio caneuon newydd er mwyn rhoi’r Trŵbz nôl yn ffenest siop y Sîn Roc Gymraeg.

Fe fuon nhw yn recordio yn Stiwdio Bing ger Machynlleth yr Haf diwethaf, a’r cynllun oedd cyhoeddi’r caneuon fesul dipyn eleni a mwynhau Haf prysur o gigio… ond yn amlwg, daeth y cofid a’r cloi, a tydi’r Trŵbz heb dywyllu’r un llwyfan.

“ Y plan oedd gwneud tua pymtheg o gigs yr Haf yma,” eglura basydd y band, Morgan Elwy.

“Dyna’r nifer fwyaf o gigs rydan ni wedi cael ar gyfer Haf ers tua pedair, pum mlynedd. Felly roeddan ni reit excited i berfformio’r caneuon [newydd] yma… yn amlwg, tydi hynny heb ddigwydd, yn anffodus.”

Ond er gwaetha’r cyfyngiadau, mae’r caneuon wedi eu rhyddhau bob yn dipyn.

Ddechrau’r flwyddyn daeth ‘Drudwy’ allan, yna ar ddechrau’r cyfnod clo cafwyd ‘Annibyniaeth’ sy’n gân wladgarol am Gymru Rydd.

A’r ddiweddara’ yw ‘Hiraeth Ddaw’, cân gafodd ei sgrifennu gan ddiweddar dad y ddau frawd sy’n tanio’r Trŵbz.

Ac mae dwy gân arall ar eu ffordd ryw ben cyn terfyn y flwyddyn ryfedd hon, sef ‘Geiriau Mor Wag’ a ‘Zion’ – cân reggae sydd wedi ei sgrifennu gan Morgan Elwy.

Mae basydd y band yn byw yn Llundain gyda Mared Williams, y ferch gyda’r llais anhygoel sy’n cyfansoddi ei stwff ei hun ac wedi bod ar Cân i Gymru a Noson Lawen droeon.

Cyn y cloi roedd hi mewn cynhyrchiad o Les Miserables ac yn canolbwyntio ar ei gyrfa yn canu mewn musicals.

Felly mae brawd mawr Morgan Elwy, Jacob, wedi camu i’r adwy ac yn canu i’r Trŵbz erbyn hyn.

Yn wreiddiol, roedd Jacob yn canu mewn band o’r enw Trwbadwr gyda’i frawd bach.

Ond pan adawodd y brawd mawr am flwyddyn yn Awstralia, dyma Morgan Elwy yn ffurfio Trŵbz – talfyriad o Trwbadwr – gyda’i gariad Mared Williams, ei gefnder Tomos Lloyd ar y gitâr a’u ffrind Gruff ‘Penc’ Roberts ar y dryms.

“Mae Jacob wedi bod yn camu fewn ers tua pedair blynedd rwan, pan oedd Mared methu gwneud o,” eglura Morgan Elwy.

“Felly wnaethon ni benderfynu recordio efo Jacob yn y diwedd, am ein bod ni wedi gwneud gymaint o gigs efo fo.”

Erbyn hyn, ‘Jacob Elwy a’r Trŵbz’ ydy enw swyddogol y band, er bod pawb yn dal i ddweud ‘Y Trŵbz’.

Teyrnged i’w tad

Baled roc oedd cân gynta’r cymbac eleni.

Mae ‘Drudwy’ yn deyrnged i Bryn Williams, tad Morgan a Jacob Elwy, a fu farw yn 2015.

Arni mae Jacob yn canu ‘ti sy’n tanio’r fflam sy’n ysbrydoli ni’ yn deimladwy – mae ganddo lais canu da, nid yn anhebyg i James Blunt.

Ac mae’r band newydd ryddhau ‘Hiraeth Ddaw’, sef cân gafodd ei sgrifennu gan Bryn Williams “tua ugain mlynedd yn ôl”.

Jacob Elwy yn canu

Doedd y tad ddim yn aelod o fand roc ei hun, ond yn chwarae gitâr ac yn hoffi jamio a chyfansoddi.

Mae’r Trŵbz wedi bod yn perfformio ‘Hiraeth Ddaw’ a ‘Geiriau mor wag’, un arall o ganeuon Bryn Williams, ers blynyddoedd.

“Roedd hi’n hen bryd i ni recordio nhw, achos rydan ni wedi bod yn canu nhw ers i ni gychwyn,” meddai Morgan Elwy.

“Felly mae o dipyn bach yn emosiynol, ac roedd ‘Drudwy’ yn gân deyrnged i dad.

“Honna oedd y gân gyntaf i fi sgwennu am dad.

“Am flynyddoedd, doeddwn i jesd methu gwynebu’r peth, i fod yn onest…

“Ond ddes i i dermau efo fo, ac roedd o jesd yn neis gallu dangos rhyw fath o deyrnged iddo, trwy recordio ei ganeuon o.”

Ddechrau’r flwyddyn fe gafodd y Trŵbz eu ffilmio yn canu ‘Drudwy’ ar gyfer rhaglen Lŵp S4C, ac mae’r fideo i’w gweld ar YouTube.

Fideo ddifyr arall ydy honno mae Morgan Elwy ei hun wedi ei chreu ar gyfer y gân ‘Annibyniaeth’.

“Doeddwn i ddim wedi planio gwneud fideo, ond gan bod gen i gymaint o amser ar fy nwylo yn y lockdown, wnes i dreulio wythnosau yn gwneud y fideo, sy’n gasgliad ohonom ni yn y ralis [YesCymru] a fideos o ni yn wneud pethau rownd Cymru.”

Ac mae’r fideo a neges wleidyddol y gân wedi cael croeso brwd gan gefnogwyr Cymru Rydd.

“Mae pobol YesCymru wedi anfon negeseuon ata ni, wrth eu boddau!”

Byw yn Llundain… a Priodas Pum Mil

Ym mis Medi bydd Morgan Elwy yn cychwyn gweithio fel Athro Ffiseg yn Llundain.

Mae yn byw yn ardal Kilburn y ddinas gyda Mared Williams.

“Mae yna lot o Irish Pubs ar y stryd a rydech chi’n gweld lot o Wyddelod o gwmpas,” eglura’r basydd.

“Mae yna gymysgedd o bobol Turkish a Gwyddelod yna.”

Cyn hynny bu’n byw ym Manceinion, ac mae wastad wedi mwynhau dychwelyd i Lansannan yn Sir Conwy i greu cerddoriaeth gyda’i hen fêts ysgol.

“Mae lot o fandiau yn stopio pan mae’r canwr yn mynd i wneud pethau ei hun, ond dw i ddim yn gweld y pwynt.

“Mae [bod mewn band] yn esgus i ni ddod at ein gilydd… Tomos a Gruff a Jacob, dyna pwy ydy pals fi.

“Felly mae gwneud miwsig yn esgus i ddod at ein gilydd, sydd yn neis.”

Ac ar achlysuron arbennig mae’r band yn hoffi chwarae cyfyrs o bangars Cymraeg megis ‘Yma o Hyd’ a ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’.

“Wnaethon ni [ffilmio] Priodas Pum Mil nôl ym mis Rhagfyr, a perfformio cwpwl o gyfyrs Cymraeg, ac roedd pobol wrth eu boddau!” cofia Morgan Elwy.

Bydd y Trŵbz yn rhyddhau ‘Geiriau Mor Wag’ a ‘Zion’ yn y misoedd nesaf.